Mae Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig – Janet Finch-Saunders AS – wedi pwso heddiw (06 Awst) ar Lywodraeth Cymru i ystyried dull newydd o wefru cerbydau trydan, sy'n trosi pyst lamp yn bwyntiau gwefru, er mwyn helpu'r wlad i gyrraedd ei thargedau allyriadau carbon.
Daw ei hymyrraeth wrth i Lywodraeth Cymru lansio eu Cynllun Aer Glân i Gymru. Ddoe, fe wnaeth Mrs Finch-Saunders bwyso ar Lywodraeth Cymru hefyd i ystyried cefnogi technolegau sy'n cysylltu cerbydau trydan â'r grid, er mwyn meithrin swyddi coler werdd hirdymor a helpu i leihau allyriadau.
Wrth wneud sylwadau ar ei chynigion, dywedodd Janet:
“Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn syniadau beiddgar ac arloesol busnes-yn-gyntaf er mwyn cefnogi ymdrechion ein cenedl i ffrwyno allyriadau carbon. Mae angen syniadau newydd radical er mwyn addasu bywyd trefol mewn ffordd sy'n sicrhau bod technoleg newydd yn agored i bawb.
“Dyma pam rwy'n pwyso ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i sut y gall gefnogi'r atebion peirianyddol diweddaraf i drosi pyst lamp sydd ar gael yn gyhoeddus yn fannau gwefru ceir trydan. Bydd hyn yn helpu i drosi lleoedd parcio ar ochr y ffordd yn fannau gwefru bob dydd.
“Gyda 990 o bwyntiau gwefru o gwmpas Cymru, a dim ond 60 ohonyn nhw'n gallu gwefru'n gyflym mewn llai nac awr, mae problemau mynediad yn ein rhwystro o hyd rhag newid i ddulliau teithio glanach. Cyn gwaharddiad y DU ar geir tanwydd ffosil yn 2035, dylid ystyried adolygiad o'r cynnig gwefru newydd hwn.
“Mae ansawdd aer gwael yn sgil allyriadau petrol a diesel yn parhau i fod yn berygl modern, gyda phum tref a dinas yng Nghymru yn nodi lefelau anghyfreithlon a pheryglus o lygredd aer dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r ymgyrch tuag at gerbydau trydan yn gam pwysig yn adferiad gwyrdd ein cenedl, gan gefnogi cenedlaethau'r dyfodol i fyw bywydau iachach.”
DIWEDD
Llun: Chuttersnap/UnSplash