Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy was delighted to attend the grand opening of the Cae Mor Hotel on Llandudno’s promenade.
The Victorian-era hotel in Llandudno, originally opened in 1890, has undergone an extensive refurbishment to bring it into the modern age. Listed for sale in 2021 with an asking price of £1.25 million, the 22-bedroom hotel, 15 of which offer views of North Wales’s coastline, revealed its new, contemporary design on Friday.
Accessible rooms and family rooms are also available, at the refurbished hotel, which is located next door to Venue Cymru, and also hopes to appeal to business delegates and corporates attending events such as concerts, and conferences.
Commenting on the news, Janet said:
“It was an absolute delight to visit the newly opened Cae Mor Hotel in Llandudno. A fine piece of Victorian architecture, it is wonderful to see it resurrected and returned to splendour on our promenade.
“I welcome this investment and boost to our local economy. It is always good news to see so much care and attention put into these sorts of projects and I look forward to seeing guests enjoying their time there and in Llandudno.
“The hotel's 1890 Restaurant & Bar has also been renovated and will now offer luxury fine dining. The menu aims to showcase the very best of Welsh cuisine, featuring delicious locally sourced ingredients, complemented by an excellent wine list.
“This marks a new chapter in the hotel’s 134 year history and I am excited to see what General Manager, Nicola, and her team will do over the summer months.
“I wish them all the best for the future.”
ENDS
Roedd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn falch iawn o gael mynychu agoriad mawreddog Gwesty Cae Môr ar bromenâd Llandudno.
Mae’r gwesty o oes Fictoria yn Llandudno, a agorwyd yn wreiddiol ym 1890, wedi cael ei ailwampio'n llwyr bron iawn i fod yn addas ar gyfer yr oes fodern. Fe’i rhestrwyd ar werth yn 2021 am bris o £1.25 miliwn. Cafodd y gwesty cyfoes ar ei newydd wedd – sy’n cynnwys 22 ystafell wely, 15 o'r rheini’n cynnig golygfeydd o arfordir y Gogledd - ei ddadlennu ddydd Gwener.
Mae ystafelloedd hygyrch ac ystafelloedd teulu ar gael hefyd yn y gwesty ar ei newydd wedd, sydd drws nesaf i Venue Cymru, ac sydd hefyd yn gobeithio apelio at gynrychiolwyr busnes a chorfforaethau sy'n mynychu digwyddiadau fel cyngherddau, a chynadleddau.
Wrth sôn am y newyddion, dywedodd Janet:
"Roedd yn bleser pur ymweld â Gwesty Cae Môr sydd newydd agor yn Llandudno. Mae’n esiampl wych o bensaernïaeth Fictoraidd ac mae'n hyfryd gweld y lle wedi’i adfywio ar ein promenâd.
"Rwy'n croesawu'r buddsoddiad hwn sy’n hwb i'n heconomi leol. Mae bob amser yn newyddion da gweld cymaint o ofal a sylw yn cael eu rhoi i’r mathau yma o brosiectau ac edrychaf ymlaen at weld gwesteion yn mwynhau eu hamser yno ac yn Llandudno.
"Mae Bwyty a Bar 1890 y gwesty hefyd wedi cael eu hadnewyddu a byddant nawr yn cynnig lle braf a moethus i wledda. Nod y fwydlen yw arddangos y gorau o fwydydd Cymru, sy'n cynnwys cynhwysion blasus lleol, i gyd-fynd â rhestr win ardderchog.
"Mae hon yn bennod newydd yn hanes 134 mlynedd y gwesty ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth fydd y Rheolwr Cyffredinol, Nicola, a'i thîm yn ei wneud dros fisoedd yr haf.
"Rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw ar gyfer y dyfodol."
DIWEDD