Heddiw (27 Awst), mae Janet Finch-Saunders – Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Cyfoes yr Wrthblaid dros y Ceidwadwyr Cymreig – wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i ystyried cael gwared ar fiwrocratiaeth sy’n atal ffermwyr Cymru rhag mynd i’r afael â phrosiectau hydro arloesol ar eu tir.
Yn ôl arbenigwyr, gall trydan dŵr fod yn ffynhonnell bŵer effeithiol heb gronfeydd dŵr mawr ac argaeau. Gan fod y dechnoleg yn aml wedi’i theilwra’n arbennig ar gyfer pob prosiect, mae swyddogion yn dweud y dylid ystyried ei ddefnydd yn fwy eang ar dir isel ynghyd ag ar ffermydd mynydd.
Yn rhoi sylwadau ar ei hymyrraeth, dywedodd Janet:
“Mae llawer o ffermwyr, fel gwarcheidwaid ein hamgylchedd naturiol, yn gobeithio meithrin eu perthynas â’r tir drwy gynnal prosiectau hydro arloesol sydd â’r potensial i chwyldroi incwm y fferm a sefydlogi potensial y diwydiant ar gyfer y dyfodol.
“Yn aml, mae gan y prosiectau hyn y potensial i reoli risgiau agronomeg cynyddol hefyd. Mae hyn yn bwysig gan fod tywydd anodd ei ddarogan, yn sgil newid hinsawdd byd-eang, wedi gwneud y farchnad hyd yn oed yn fwy cyfnewidiol yn y blynyddoedd diwethaf.
“Fodd bynnag, tra bod y rhethreg sy’n dod o Fae Caerdydd yn cael ei wneud mewn ysbryd da, dim ond codi rhwystrau biwrocrataidd y mae camau Llywodraeth Cymru wedi’i wneud, gan atal taith ffermwyr tuag at fusnesau cynaliadwy sy’n ystyried yr amgylchedd.
“Er nad yw hydro yn dechnoleg syml ar unrhyw ystyr, mae potensial gwych i’r safleoedd gwledig cywir yng Nghymru. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i adolygu’r rhwystrau biwrocrataidd sy’n atal llawer o ffermwyr rhag cynnal prosiectau o’r fath, yn sgil pryderon dilys am gostau cyfreithiol a chynllunio posibl a ddaw yn sgil hynny.”
DIWEDD