Ahead of World Stroke Day (29 October 2022), Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has spoken out about the standard of service provided by Ysbyty Glan Clwyd, and delays in getting stroke patients to hospitals.
The concerns were raised during a Welsh Conservative debate which called on the Welsh Government to recognise that an urgent response is required to prevent danger to life for people suffering a stroke, and instruct the Health and Social Care Committee to conduct a review into the benefits and challenges of re-categorising strokes as “red: immediately life-threatening calls” under the Clinical Response Model.
Stroke is the fourth leading cause of death in Wales.
Commenting after participating in the debate, Janet said:
“An estimated 7,400 people a year in Wales experience a stroke. That’s the equivalent of a whole town every year!
“It takes on average 6hrs 35mins between stroke onset and arrival at hospital in Wales. Compare that with 3 hours 41 minutes in England and 2 hours 41 minutes in Northern Ireland.
“The Sentinel Stroke National Audit Programme (SSNAP) data, which scores Welsh NHS responses to key indicators, such as time to scan, time to treatment, and time to admission to stroke units, highlights some concerning trends in North Wales hospitals. With a worst possible score of E, Wrexham and Glan Clwyd have seen no improvement in their SSNAP scores of D since 2021.
“In fact, Ysbyty Glan Clwyd took longer than an hour on average to scan stroke patients.
“Alongside Betsi Cadwaladr University Health Board providing an explanation as to what changes are being made at Glan Clwyd to ensure that scans are performed in shorter time frames, there is a need for the Welsh Government to support calls for re-categorising strokes as ‘red: immediately life-threatening calls’”.
ENDS
Cyn Diwrnod Strôc y Byd (29 Hydref 2022), mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi siarad am safon y gwasanaeth a ddarperir gan Ysbyty Glan Clwyd, ac oedi wrth fynd â chleifion strôc i ysbytai.
Mynegwyd y pryderon yn ystod dadl y Ceidwadwyr Cymreig a alwodd ar Lywodraeth Cymru i gydnabod bod angen ymateb brys er mwyn atal perygl i fywyd pan mae pobl yn dioddef strôc, a bod angen iddi roi cyfarwyddyd i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnal adolygiad i fanteision a heriau ail-gategoreiddio strôc fel “coch: galwadau lle mae bywyd yn y fantol” dan y Model Ymateb Clinigol.
Strôc yw’r pedwerydd prif achos marwolaethau yng Nghymru.
Yn rhoi sylwadau ar ôl cymryd rhan yn y ddadl, dywedodd Janet:
“Amcangyfrifir fod 7,400 o bobl y flwyddyn yng Nghymru yn cael strôc. Mae hynny gyfwerth â thref gyfan bob blwyddyn!
“Ar gyfartaledd yng Nghymru, mae’n cymryd 6 awr 35 munud rhwng yr amser pan mae’r strôc yn dechrau a chyrraedd yr ysbyty. Cymharwch hynny gyda 3 awr a 41 munud yn Lloegr a 2 awr a 41 munud yng Ngogledd Iwerddon.
“Mae data Rhaglen Archwilio Genedlaethol Strôc Sentinel (SSNA)), sy’n rhoi sgôr i ymatebion GIG Cymru i ddangosyddion allweddol, megis amser hyd at sgan, amser hyd at driniaeth, ac amser hyd at dderbyn i unedau strôc, yn tynnu sylw at dueddiadau sy’n achosi pryder yn ysbytai’r Gogledd. Y sgôr gwaethaf posibl yw E, ac nid yw Wrecsam a Glan Clwyd wedi gweld unrhyw welliant yn eu sgoriau SSNAP (D) ers 2021.
“Yn wir, ar gyfartaledd roedd Ysbyty Glan Clwyd yn cymryd mwy nag awr i sganio cleifion strôc.
“Yn ogystal â gofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am esboniad ynghylch y newidiadau sy’n cael eu gwneud yng Nglan Clwyd i sicrhau bod sganiau’n cael eu cynnal o fewn terfynau amser byrrach, mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi galwadau i ail-gategoreiddio strociau fel “coch: galwadau lle mae bywyd yn y fantol”
DIWEDD