Heddiw (08 Medi) mae Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig y Ceidwadwyr Cymreig - Janet Finch-Saunders AS - wedi croesawu menter yr NFU i osod arwyddion ar byst giât eu fferm er mwyn atgoffa ymwelwyr o'r Cod Cefn Gwlad. Aeth ymlaen i annog Llywodraeth Cymru i sefydlu ymgyrch ddigidol a fyddai’n addysgu’r cyhoedd yn well am eu cyfrifoldebau o dan y Cod.
Ar ôl clywed pryderon am y mewnlifiad o ymwelwyr i ardaloedd gwledig, bellach mae modd i aelodau NFU Cymru archebu arwydd postyn giât yn rhad ac am ddim i atgoffa cerddwyr o'u cyfrifoldebau. Daw’r ymgyrch hefyd wrth i Undeb Ffermwyr Cymru ddweud eu bod wedi derbyn galwadau niferus gan ffermwyr trwy gydol y cyfnod clo am aelodau o’r cyhoedd yn cerdded ar draws tir fferm, gan adael gatiau ar agor a gadael i’w cŵn redeg yn rhydd.
Wrth sôn am gynnig yr NFU, dywedodd Janet:
“Mae'r fenter hon gan NFU Cymru yn ffordd wych a chynnil o dynnu sylw at gyfrifoldebau pob un ohonom o dan y Cod Cefn Gwlad, ac rwy’n annog holl aelodau Cymru i fanteisio ar y cynnig hwn a dangos yr arwyddion hyn ar eu ffermydd.
“Trwy gydol y pandemig, mae llawer o ffermwyr wedi cysylltu â’m swyddfa i dynnu sylw at eu pryderon am yr effaith negyddol y gall mewnlifiad sydyn o ymwelwyr ei chael, a rhai yn sôn am gŵn yn rhedeg ar hyd caeau da byw a gatiau tir fferm yn cael eu gadael ar agor.
“Mae cyfres gynhwysfawr o reolau wedi bodoli ar gyfer pobl sy’n ymweld ag ardaloedd gwledig ers bron i gan mlynedd, ac er bod y rheolau hyn wedi esblygu yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'n siom nad yw gwybodaeth y cyhoedd yn gyffredinol am y cyfrifoldebau hyn wedi cadw i fyny.
“Felly, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i sefydlu ymgyrch ddigidol i addysgu’r cyhoedd yn well am y Cod Cefn Gwlad. Byddai fideos byr, y gellir eu cynhyrchu heb fawr o draul i'r trethdalwr, yn sicr yn werth y pres ac yn ein hannog i barchu ein cymunedau gwledig yn well. ”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Gall Aelodau NFU Cymru archebu arwydd bach ar gyfer postyn giât trwy fynd i: https://www.nfu-cymru.org.uk/news/latest-news/new-gatepost-sign-reminds-walkers-of-countryside-code-order-yours-now/