Heddiw (13 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth pellach i wyddonwyr mewn Prifysgol yng Nghymru sy’n datblygu ffordd newydd, lân o gynhyrchu ynni.
Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i Weinidog yr Amgylchedd, dywedodd Janet:
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adeiladu ar waith Prifysgol Caerdydd a gwneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran hylosgi amonia?
Nid yw amonia yn cynhyrchu carbon deuocsid wrth ei losgi, gellir ei greu drwy ddefnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy a gellir ei storio’n hawdd fel hylif swmp. Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn cymryd camau mawr tuag at gynhyrchu trydan ar raddfa fawr o’r cyfansoddyn hwn. Mae tîm yr Ysgol Beirianneg wedi sicrhau bron i £3 miliwn mewn cyllid i’w galluogi i gyflymu’r dechnoleg arloesol y maen nhw eisoes wedi’i harddangos ar raddfa fechan.
Gan roi sylwadau ar ei chwestiwn i Lywodraeth Cymru, dywedodd Janet:
“Er ein bod ni i gyd yn adnabod y cyfansoddyn hwn fel gwrtaith mae’n siŵr, rydw i wedi fy nghyffroi’n llwyr o glywed bod amonia wedi dangos addewid mawr yn ddiweddar fel tanwydd a allai ffurfio’r sail ar gyfer datrysiad ynni adnewyddadwy newydd, wrth ei losgi mewn peiriant neu ei ddefnyddio mewn cell danwydd i gynhyrchu trydan.
“Yn ogystal â rhyddhau ynni o amonia mewn peiriant tyrbin nwy neu hylosgi mewnol, gall y cyfansoddyn hefyd gael ei ‘gracio’ yn ôl i nitrogen a hydrogen, gan ryddhau tanwydd sy’n cynhyrchu dŵr yn unig gan ei wneud yn atyniadol dros ben ar gyfer trafnidiaeth a phŵer cludadwy.
“Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i sut gall roi gwell cefnogaeth i’r ymchwil arloesol hon ym Mhrifysgol Caerdydd, er mwyn i Gymru fod yn arweinydd byd-eang ym maes hylosgi amonia.
“Mae mabwysiadu’r ffynhonnell ynni addawol hon yn gynnar yn golygu y gellid cynnal peth wmbreth o swyddi gwyrdd hirdymor mewn trafnidiaeth, cartrefi a chynhyrchu trydan o bosibl. Yn wir, mae adferiad gwyrdd ein cenedl ar ôl Coronafeirws yn dibynnu ar fanteisio ar ddatblygiadau technolegol fel hyn.”
DIWEDD
Ffoto: Daniel Falcao/UnSplash