Heddiw (10 Tachwedd), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi siarad am ei phryder am y cynnydd mewn risg o ffliw adar ymysg adar gwyllt, ac mae wedi erfyn ar geidwaid adar i gryfhau eu mesurau bioddiogelwch ar eu ffermydd.
Mae’r lefel risg i adar gwyllt wedi codi o ‘ganolig’ i ‘uchel’ yn sgil dau achos digyswllt a gadarnhawyd yn Lloegr yr wythnos hon, ynghyd â rhagor o adroddiadau o’r clefyd yn effeithio ar heidiau ar dir mawr Ewrop. Nawr, mae pedwar Prif Swyddog Milfeddygol y DU wedi erfyn ar geidwaid adar i atal cyswllt uniongyrchol neu anuniongyrchol ag adar gwyllt, gyda’r risg i heintio dofednod ym Mhrydain hefyd yn cael ei chodi o ‘isel’ i ‘ganolig’.
Gan dynnu sylw at y cyngor i geidwaid adar, dywedodd Janet:
“Rwyf am ganmol gwaith ein Prif Swyddogion Milfeddygol, a’u cydweithwyr, sydd wedi gweithredu’n gyflym i atal lledaeniad y clefyd ar y ddau safle yn Lloegr. Maen nhw’n parhau i fonitro’r sefyllfa a bellach wedi annog pob ceidwad adar i gadw llygad barcud ar unrhyw arwydd o’r clefyd. Gofynnir i geidwaid adar roi gwybod am unrhyw achos dan amheuaeth ar unwaith.
“Mae’n bwysig nodi bod gan y Deyrnas Unedig fesurau monitro cadarn ar waith i helpu i atal clefydau adar rhag lledaenu, ac mae’n rhaid i mi bwysleisio bod y risg o drosglwyddo feirysau ffliw adar i’r cyhoedd yn y DU yn parhau yn isel iawn.
“Mae’r arbenigwyr milfeddygol hyn yn awyddus i bwysleisio, nawr yn fwy nag erioed, y dylai ein ceidwaid adar sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynnal a chryfhau bioddiogelwch da ar eu safleoedd er mwyn atal achosion pellach. Mae arferion da yn cynnwys cadw pob rhan yn daclus a glanhau esgidiau cyn ac ar ôl ymweliadau.
“Rwy’n erfyn ar geidwaid adar yng Nghymru i archwilio a chryfhau eu mesurau bioddiogelwch, gan ddilyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan ein pedwar Prif Swyddog Milfeddygol. Trwy sicrhau bod ein hadar yn cael eu diogelu mewn amgylchedd diogel a glân, gallwn liniaru’r bygythiad a chynnal iechyd adar.”
DIWEDD
Nodiadau gan Olygyddion:
Mae’r mesurau y dylai ceidwaid adar eu dilyn yn cynnwys:
- Cadw’r ardal ble mae adar yn byw yn lân a thaclus, gan reoli llygod mawr a bach a glanhau a diheintio unrhyw arwynebau caled
- Glanhau esgidiau cyn ac ar ôl ymweliadau
- Gosod bwyd adar a dŵr mewn mannau cwbl amgaeedig sydd wedi’u diogelu rhag adar gwyllt, a chael gwared ar unrhyw fwyd sy’n gollwng yn rheolaidd
- Gosod ffens o gwmpas mannau awyr agored lle caniateir adar a chyfyngu ar eu mynediad at byllau neu ardaloedd y mae adar dŵr yn ymweld â nhw
- Pan fo hynny’n bosibl, osgoi cadw hwyaid a gwyddau gyda rhywogaethau dofednod eraill.
Ffoto: Brianna Santellan ar Unsplash