Bedwar mis ers ffurfio Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru (PEDW), mae Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, wedi siarad yn y Senedd am y problemau sy'n wynebu busnesau oherwydd oedi wrth ymdrin ag apeliadau cynllunio.
Ar ôl gofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddarparu adnoddau ychwanegol i alluogi PEDW i fynd i'r afael â'r ôl-groniad a sicrhau bod y system gynllunio'n gweithio'n iawn, dywedodd Janet:
“Mae'n annerbyniol bod busnesau'n dweud eu bod yn aros hyd at dri mis wedi'r dyddiad cau targed ar gyfer eu hapêl.
“Fel y mae asiant cynllunio wedi dweud, ac mae yn llygad ei le, mae oedi gormodol wrth gyhoeddi penderfyniadau, fisoedd lawer yn ddiweddarach na'r dyddiad targed gweinidogol tybiedig, yn arwain at gryn boen meddwl i’r sawl sy’n apelio a gwrthwynebwyr fel ei gilydd.
“Mae'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r newid i PEDW yn symbol o'r rheoli gwael sy'n llesteirio twf economaidd a buddsoddiad busnes yng Nghymru”.