Heddiw (21 Gorffennaf), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru i erfyn am ailagor ogofâu arddangos y genedl.
Ogofâu Arddangos Dan yr Ogof yw un o’r arddangosfeydd mwyaf o’i bath yn y DU, gyda dros 16km o lwybrau. Canolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru yw un o brif atyniadau Cymru ac mae’n ddarparwr swyddi pwysig i’r rhanbarth.
Yn rhoi sylwadau ar ei llythyr at y Dirprwy Weinidog, dywedodd Janet:
“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i wrthdroi eu polisi esgeulus sydd wedi cau drysau ein hogofâu arddangos. Mae’r rhyfeddodau naturiol hyn eisoes wedi cael ailagor ym mhob rhan arall o’r Deyrnas Unedig, ar ôl pennu eu bod yn ddiogel.
“Nid yw ogofâu arddangos fel pyllau glo, mwyngloddiau copr, mwyngloddiau plwm neu chwareli llechi. Maen nhw’n gwbl naturiol ac mae ganddyn nhw geryntau aer sy’n cael eu cylchredu’n barhaus a’u hawyru drwy systemau uniadau naturiol y calch.
“Fel rydw i wedi’i egluro dro ar ôl tro i Lywodraeth Cymru, bydd canslo archebion gan grwpiau teithio i atyniadau sydd mor bwysig yng Nghymru yn cael effaith niweidiol ar sector twristiaeth Cymru gyfan.
“Mae gwrthodiad Llywodraeth Cymru i ganiatáu i ogofâu arddangos ailagor eisoes wedi cyfrannu at golli dros ddeugain o swyddi, gyda chwestiynau’n cael eu codi am ddyfodol y Ganolfan ymwelwyr bwysig hon. Mae angen diddymu’r polisi ar unwaith os yw’r lleoliad hollbwysig hwn i oroesi.”
DIWEDD