Heddiw (19 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi siarad am ei siom gyda’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn briffio sefydliadau am gyfnod clo pythefnos o hyd a gadarnhawyd a fydd yn dechrau ar 23 Hydref.
Yn ôl dogfen a ddatgelwyd yn answyddogol, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad ffurfiol yn nes ymlaen heddiw. Dros y penwythnos, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ysgrifennu at y Llywydd yn galw am sesiwn frys o’r Senedd, gan rybuddio am oblygiadau difrifol y cyhoeddiad hwn a phwyso am “graffu cyhoeddus manwl ar y mater pwysig hwn”.
Wrth drafod yr honiadau dros y penwythnos, dywedodd Janet:
“Dyma enghraifft arall lle mae Llywodraeth Cymru wedi dewis osgoi Senedd Cymru, trwy friffio sefydliadau allanol dethol yn gyntaf. Mae’n dangos pa mor anhygoel o drahaus yw’r weinyddiaeth hon ac mae’n dangos amarch llwyr at y cyhoedd sy’n disgwyl i Senedd Cymru gyflawni ei swyddogaethau fel corff cadw cydbwysedd hanfodol.
“Mae goblygiadau’r cynnig hwn yn enfawr, a dyna pam mae angen trafodaeth lawn a thrylwyr yn siambr y Senedd. Mae’n rhaid ystyried yr effaith negyddol hirdymor ar iechyd meddwl ein trigolion mwyaf bregus, gan ddarparu’r mynediad angenrheidiol at rwydweithiau cymorth.
“Mae’n rhaid i’r cynigion hyn gan Lywodraeth Cymru ystyried pryderon eraill y Comisiynydd Pobl Hŷn, ynghyd â rhanddeiliaid eraill, er mwyn sicrhau nad yw anghenion pobl hŷn yn cael eu hanwybyddu. Yn wir, mae’n rhaid i awdurdodau sicrhau bod parch haeddiannol yn cael ei ddangos i fywydau preifat a theulu.
“Mae’r cyfyngiadau lleol yn Sir Conwy eisoes wedi achosi problemau sylweddol i ddilysrwydd sawl busnes, gan roi swyddi a bywoliaethau mewn perygl. Mae’n rhaid i unrhyw gynnig am gyfnodau atal byr estynedig fynd law yn llaw â phecyn ariannol cyfatebol i gefnogi’r busnesau a’r sectorau hynny sy’n cael eu heffeithio’n niweidiol.
“Os yw’r cynnig hwn i gael ei fabwysiadu, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ati ar unwaith i gyhoeddi’r data sydd wrth wraidd ei reidrwydd, gan roi esboniad llawn a thrylwyr o sut bydd y cyfnod clo hwn yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n rhaid iddynt hefyd roi digon o amser i wasanaethau cyhoeddus addasu a pharatoi.”
DIWEDD