Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is pleased to congratulate The Rt Hon Kemi Badenoch MP on her election as Leader of the Opposition and leader of the Conservative Party.
This historic achievement marks an exciting new chapter not only for the Conservative Party but also for the entire nation, as Mrs Badenoch brings her steadfast commitment to public service and vision for a united, prosperous Britain to her new role.
Throughout her political career, Mrs Badenoch has demonstrated a deep commitment to upholding British values and advocating for policies that foster opportunity, fairness, and national pride.
Commenting on the news Janet said:
“I am thrilled to congratulate Kemi on her new role as leader of the Conservative Party. As an experienced leader and a strong voice for communities across the UK, she is well-prepared to tackle the challenges facing our nation and stand as a principled advocate for the British people in Parliament.
“Her tenure comes at a pivotal time, and her focus on strengthening the economy, enhancing public services, and championing freedom of expression will be vital in guiding the party forward and in providing strong opposition in Parliament.
“Dedication to inclusive policies that empower all individuals to achieve their potential has inspired countless people throughout her career, and we have every confidence that her leadership will bring new energy and ideas to the Conservative Party.
“It was a pleasure to support Kemi during the election, and I now look forward to working with her and the team as we strive together to achieve meaningful progress on behalf of all of us in Wales and the United Kingdom.”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn falch o longyfarch y Gwir Anrhydeddus Kemi Badenoch AS ar ei hethol yn Arweinydd yr Wrthblaid ac arweinydd y Blaid Geidwadol yn San Steffan.
Mae'r cyflawniad hanesyddol hwn yn nodi pennod newydd gyffrous nid yn unig i'r Blaid Geidwadol ond hefyd i'r genedl gyfan, wrth i Mrs Badenoch ddod â'i hymrwymiad amlwg i wasanaeth cyhoeddus a gweledigaeth ar gyfer Prydain unedig, lewyrchus i'w rôl newydd.
Gydol ei gyrfa wleidyddol, mae Mrs Badenoch wedi dangos ymrwymiad dwfn i gynnal gwerthoedd Prydeinig ac eirioli dros bolisïau sy'n meithrin cyfle, tegwch, a balchder cenedlaethol.
Wrth sôn am y newyddion dywedodd Janet:
"Rwy'n falch iawn o longyfarch Kemi ar ei rôl newydd fel arweinydd y Blaid Geidwadol. Fel arweinydd profiadol a llais cryf dros gymunedau ledled y DU, mae hi'n barod iawn i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein cenedl a sefyll fel eiriolwr egwyddorol dros bobl Prydain yn y Senedd.
"Daw ei chyfnod fel arweinydd ar adeg dyngedfennol, a bydd ei ffocws ar gryfhau'r economi, gwella gwasanaethau cyhoeddus a hyrwyddo rhyddid mynegiant yn hanfodol wrth arwain y blaid yn ei blaen ac wrth ddarparu gwrthblaid gref yn y Senedd.
"Mae ei hymroddiad i bolisïau cynhwysol sy'n grymuso pob unigolyn i gyflawni ei botensial wedi ysbrydoli pobl ddirifedi gydol ei gyrfa, ac rydym yn ffyddiog y bydd ei harweinyddiaeth yn dod ag egni a syniadau newydd i'r Blaid Geidwadol.
"Roedd yn bleser cefnogi Kemi yn ystod yr etholiad, ac rwy'n edrych ymlaen yn awr at weithio gyda hi a'r tîm wrth i ni ymdrechu gyda'n gilydd i sicrhau cynnydd ystyrlon ar ran pob un ohonom ni yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig."
DIWEDD