Janet Finch-Saunders MS is encouraging everyone to take steps to mitigate the risks fireworks pose to animals.
With the end of October fast approaching, it is likely that we will see celebrations featuring fireworks taking place across Wales over the coming weeks and months.
Halloween, Bonfire Night, Diwali and New Years' celebrations provide us with important opportunities to come together with family, friends and our local communities. However, fireworks can be frightening for many animals - pets, wildlife, horses and livestock alike - and some people too.
We can take a considerate approach towards this year's festivities through:
- Owners ensuring they make the necessary arrangements for their animals such as keeping/bringing them indoors, creating safe spaces for them and staying with them, where relevant;
- Advertising both public and private displays in advance so that animal owners can plan ahead;
- Using fireworks on the day of the relevant celebration only to make preparations easier for all;
- Checking bonfires before lighting to avoid harming wildlife such as hedgehogs;
- Disposing of fireworks safely.
Speaking about fireworks, Janet said:
“There will be great opportunities to have fun this firework season, but we must not forget that they can be frightening for animals, and some people.
“We are a caring community, so I urge everyone to do what they can to ensure that we celebrate in a considerate way.
“The RSPCA have issued excellent guidance which we should all take heed of. There are some really simple measures, such as calming pets during firework nights with classical music. In fact, you may wish to play music by Sir Edward Elgar, who composed some of his work in Betws y Coed!”
ENDS
Notes:
Mae Janet Finch-Saunders AS yn annog pawb i gymryd camau i leihau’r risgiau y mae tân gwyllt yn eu hachosi i anifeiliaid.
Gyda diwedd mis Hydref yn prysur agosáu, mae'n siŵr y byddwn yn gweld dathliadau sy'n cynnwys tân gwyllt yn cael eu cynnal ledled Cymru dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Mae dathliadau Calan Gaeaf, Noson Tân Gwyllt, Diwali a'r Flwyddyn Newydd yn rhoi cyfleoedd pwysig i ni ddod at ein gilydd gyda theulu, ffrindiau a'n cymunedau lleol. Fodd bynnag, gall tân gwyllt godi ofn ar lawer o anifeiliaid - anifeiliaid anwes, bywyd gwyllt, ceffylau a da byw fel ei gilydd – a brawychu rhai pobl hefyd.
Gallwn gymryd agwedd ystyriol tuag at y dathliadau eleni drwy:
- Ofyn i berchnogion sicrhau eu bod yn gwneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer eu hanifeiliaid megis eu cadw/dod â nhw dan do, creu mannau diogel iddyn nhw ac aros gyda nhw, lle bo hynny'n berthnasol;
- Hysbysebu arddangosfeydd cyhoeddus a phreifat ymlaen llaw fel y gall perchnogion anifeiliaid wneud trefniadau ymlaen llaw;
- Defnyddio tân gwyllt ar ddiwrnod y dathliad perthnasol yn unig i wneud unrhyw baratoadau yn haws i bawb;
- Gwirio coelcerthi cyn eu cynnau er mwyn osgoi niwed i fywyd gwyllt fel draenogod;
- Gwaredu tân gwyllt yn ddiogel.
Wrth siarad am dân gwyllt, dywedodd Janet:
"Bydd yna gyfleoedd gwych i gael hwyl adeg tân gwyllt, ond rhaid i ni gofio y gallan nhw fod yn frawychus i anifeiliaid, ac i rai pobl.
"Rydyn ni’n gymuned ofalgar, felly rwy'n annog pawb i wneud yr hyn y gallan nhw i sicrhau ein bod yn dathlu mewn ffordd ystyriol.
"Mae'r RSPCA wedi cyhoeddi canllawiau ardderchog y dylen ni i gyd eu hystyried. Mae rhai mesurau syml iawn, fel tawelu anifeiliaid anwes yn ystod nosweithiau tân gwyllt gyda cherddoriaeth glasurol. Yn wir, efallai yr hoffech chi chwarae cerddoriaeth gan Syr Edward Elgar, a gyfansoddodd rywfaint o'i waith ym Metws-y-coed!"
DIWEDD
Nodiadau: