Mae cais rhyddid gwybodaeth gan Janet Finch-Saunders AC, Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid, wedi datgelu bod 89 o gleifion wedi methu mynd adref oherwydd oedi wrth drosglwyddo gofal er eu bod yn barod i gael eu rhyddhau o’r ysbyty ar 18 Mawrth 2020.
Cafodd Bwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr brawf COVID-19 positif yn ôl ar 13 Mawrth 2020.
Yn rhoi sylwadau ar yr oedi wrth drosglwyddo gofal, dywedodd Janet:
“Bydd llawer o bobl yn digalonni wrth glywed bod eu ffrind neu anwyliaid wedi bod yn gaeth i’r ysbyty yn y Gogledd heb fod angen pan gofnodwyd yr achosion COVID-19 positif cyntaf.
“Rwy’n canmol y bwrdd iechyd am ei waith eithriadol wrth ofalu am gleifion ac agor ysbytai maes dros dro, ond mae’r system yn eu gadael i lawr.
“Roedd nifer y bobl a oedd yn methu gadael y bwrdd iechyd ar 18 Mawrth 2020 yn fwy na’r 80 o welyau ychwanegol a ddylai fod ar gael yn Ysbyty Glan Clwyd erbyn diwedd y mis.
“Yn ystod yr argyfwng byd-eang, byddai mynd i’r afael go iawn â’r oedi parhaus wrth drosglwyddo gofal yma yn y gogledd wedi ysgafnhau’r pwysau ar y GIG.
“Galwais ar Lywodraeth Cymru i weithredu fis Hydref y llynedd, felly roedd hi’n siomedig bod y sefyllfa wedi parhau i achosi problemau ym mis Mawrth eleni.
“Er bod yr holl gleifion sy’n dychwelyd i gartrefi gofal o ysbytai yn cael eu profi am COVID-19 bellach, gan agor y sianel drosglwyddo honno eto, a bod £10 miliwn wedi’i gyhoeddi yr wythnos hon i helpu i ryddhau pobl o’r ysbyty, pam na weithredwyd yn gynt? Pam fod Llywodraeth Cymru wedi aros tan fis Ebrill cyn gweithredu pan roedd cleifion yn gorfod aros yn yr ysbyty yn ddiangen ym mis Mawrth?”
DIWEDD