Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r tro pedol gan Lywodraeth Llafur Cymru i ddechrau profi preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal lle mae argyfwng Covid-19 yn digwydd ac mewn cartrefi gofal cyfagos hefyd o bosibl. Bydd yr ychwanegiadau at y drefn brofi yng Nghymru hefyd yn gweld ail brofion yr wythnos ganlynol.
Ers wythnosau bellach, mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig, wedi bod yn galw am fwy o brofion yng Nghymru, yn enwedig ar gyfer ein preswylwyr mewn cartrefi gofal.
Deuddydd yn unig yn ôl dywedodd Janet ei bod yn synnu bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod profi holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal.
Gan roi ei sylwadau ar y tro bedol gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Janet:
“Ddeuddydd yn unig yn ôl dywedodd y Prif Weinidog nad oedd unrhyw werth mewn profi pawb mewn cartrefi gofal. Mae’r tro pedol hwn gan Lywodraeth Cymru i’w groesawu’n fawr gan y preswylwyr a’r staff mewn cartrefi gofal ynghyd â’u teuluoedd a’u hanwyliaid. Gall profion helpu i leihau lledaeniad y feirws angheuol ac echrydus hwn sy’n cael effaith frawychus ar y mwyaf bregus mewn cymdeithas. Trueni na fyddai’r capasiti ychwanegol yn rhaglen profion COVID-19 Cymru wedi’u defnyddio yn gynt.
“Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod yn cynnal mwy na chan mil o brofion y dydd. Yng Nghymru mae gennym y gallu i gynnal ychydig yn fwy na dwy fil prawf y dydd ond dim ond hanner hynny sy’n cael eu gwneud. Rydyn ni’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i barhau gyda’u tro pedol ac ymestyn y profion i bob preswylydd a staff mewn cartrefi gofal.”
DIWEDD