Yn ymateb i’r adroddiad gan yr NSPCC bod llinellau cymorth wedi gweld cynnydd o 20 y cant mewn galwadau am blant ers dechrau’r cyfyngiadau symud, dywedodd Janet Finch-Saunders, Gweinidog Plant a Phobl Ifanc yr Wrthblaid:
“Mewn sawl ffordd, dydy hi ddim yn syndod bod cynnydd wedi’i weld mewn achosion. Mae plant wedi’u hynysu rhag eu ffrindiau a’r ysgol ers wythnosau bellach.”
Dengys ffigurau bod galwadau am blant yn wynebu cam-drin emosiynol posibl wedi codi o 529 i 792 yn y mis cyntaf ers gosod mesurau’r llywodraeth. Yn gyffredinol, cododd galwadau o 1,867 yn y pedair wythnos cyn y cyfyngiadau symud i 2,216 rhwng 23 Mawrth ac 19 Ebrill.
Aeth Mrs Finch-Saunders ymlaen.
“Fodd bynnag, yn ôl yr adroddiad, nid yw’r cynnydd mewn galwadau i linellau cymorth cam-drin plant gan y plant eu hunain, ond gan bobl y tu allan i’w teuluoedd agos fel cymdogion, eu teuluoedd estynedig a hyd yn oed gyrwyr dosbarthu nwyddau.”
“Mae’n galonogol ar un llaw bod pobl yn cadw llygad ar y rhai mwyaf bregus yn ein gwlad, gan fod eu diogelwch yn hollbwysig.
“Yn gynharach yn y mis rhybuddiais y gallai cau ysgolion arwain at bobl ifanc sydd angen cymorth yn llithro drwy’r rhwyd diogelwch.
“Mae Child Line wedi nodi galw digynsail yn nifer y sesiynau cwnsela, a nawr mae’r NSPCC yn nodi cynnydd sy’n peri pryder.
“Fel y dywedais bedair wythnos yn ôl, rwyf wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i lansio ymgyrch ar-lein newydd yn annog plant a phobl ifanc i hunangyfeirio eu hunain ar gyfer cwnsela a chefnogaeth os ydyn nhw’n cael anawsterau.
“Byddaf yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol i drafod beth arall ellir ei wneud i ddiogelu ein plant, yn enwedig o ystyried nad ydym yn disgwyl gweld y cyfyngiadau symud yn dod i ben yn fuan.”
Mae Llinell Gymorth yr NSPCC am gyngor a chymorth ar gael ar 0808 800 5000 neu gallwch e-bostio [email protected].
DIWEDD