Yn ystod y briffio dyddiol ar Goronafeirws heddiw (18 Mai), gwadodd y Prif Weinidog bod Cymru yn ceisio dal i fyny mewn perthynas â phrofion Coronafeirws mewn cartrefi gofal, gan sbarduno Janet Finch-Saunders - Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid - i ddweud:
“Mae’n amlwg, ynghyd â methu cyrraedd targedau profion ac yna eu dileu, bod ymateb Llywodraeth Llafur Cymru wedi bod yn un gwan, fel y dangoswyd gyda’r penderfyniad chwit-chwat y penwythnos diwethaf i gyflwyno profion i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal, rhywbeth y mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw amdano ers tro.
“Er ein bod yn amlwg yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar ein galwadau, byddai’n llawer gwell pe bai wedi gwneud hynny’n gynt heb orfod dal i fyny gyda’r drefn brofion yn Lloegr.”
DIWEDD