Mae Janet Finch-Saunders AS – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach – yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i helpu’r hunangyflogedig.
Daw ei galwadau yn dilyn ymateb Ken Skates AS i’w Chwestiwn Ysgrifenedig yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynllun cymorth ariannol ar gyfer y rhai nad ydynt yn gymwys am y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig. Dywedodd y Gweinidog bod y Gronfa Cadernid Economaidd wedi’i hoedi i archwilio sut i ddefnyddio’r cyllid oedd ar ôl, ac mai cynorthwyo’r busnesau hynny nad ydynt wedi’u cyrraedd eto yw’r prif nod.
Yn rhoi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Mrs Finch-Saunders:
“Rwy’n croesawu’r ffaith mai prif nod y Gweinidog yw cefnogi’r busnesau hynny nad yw’r cymorth presennol wedi’u cyrraedd eto.
“Mae’n rhaid i’r rhain gynnwys yr hunangyflogedig, gan fod llawer ohonynt wedi methu gwneud cais am gymorth drwy’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig.
“O wrando ar ddatganiad y Gweinidog ddoe, ymddengys bod golau ym mhen draw’r twnnel wrth iddo egluro y bydd cymhwystra ar gyfer cam dau'r Gronfa Cadernid Economaidd sydd wedi’i rhewi yn galluogi cwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi’u cofrestru ar gyfer TAW i gael mynediad at y gronfa a bod cynigion yn cael eu datblygu i gefnogi busnesau newydd.
“Fodd bynnag, mae angen i Ken fynd amdani. Ni all fod yn iawn na fydd y cam nesaf ar agor ar gyfer ceisiadau tan ganol neu ddiwedd mis Mehefin.”
DIWEDD
Cwestiwn Ysgrifenedig gan Janet:
A fydd y Gweinidog yn ystyried datblygu cynllun cymorth ariannol ar gyfer pobl hunangyflogedig nad ydynt yn gymwys am y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig?
Ymateb gan Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
Mae busnesau yng Nghymru yn elwa ar y pecyn mwyaf helaeth o gymorth gan lywodraeth o fewn y Deyrnas Unedig yn sgil yr argyfwng Covid-19.
Yn ogystal â’r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU a’r cymorth ar gyfer y sectorau hamdden, lletygarwch a thwristiaeth gan grantiau Rhyddhad Ardrethi Annomestig a grantiau cysylltiedig, mae ein Cronfa Cadernid Economaidd £500 miliwn yn darparu cyllid benthyciad a grant dewisol i helpu busnesau gyda llif arian. Mae Banc Datblygu Cymru eisoes wedi cymeradwyo dros 1,300 o fenthyciadau gwerth £100 miliwn ac ar hyn o bryd rydym yn prosesu 9,500 o geisiadau grant gyda 5,200 o gynigion grant gwerth £69 miliwn eisoes wedi’u gwneud.
Penderfynwyd rhewi’r Gronfa Cadernid Economaidd ddydd Llun 27 Ebrill i archwilio sut rydym yn defnyddio’r cyllid dros ben i sicrhau cymaint o fanteision â phosibl i’r cwmnïau hynny sydd ei angen ac i ddiogelu ein heconomi.
Fel llywodraeth, mae gennym nifer o bethau i’w hystyried – bydd cefnogi’r busnesau hynny nad ydym wedi’u cyrraedd eto yn un o’r blaenoriaethau.
Yn y cyfamser, rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu cymorth ariannol pellach i gwmnïau a gweithwyr o Gymru i’w helpu drwy’r cyfnod anodd iawn hwn.
Ewch i wefan Busnes Cymru am ddiweddariadau rheolaidd.
Nodiadau: