Meddai Janet Finch-Saunders AC, Gweinidog Plant a Phobl Ifanc yr Wrthblaid, heddiw (25 Mawrth):
“Yn yr wythnos gyntaf hon o gau ysgolion Cymru gyfan, hoffwn ganmol gwaith eithriadol ein hathrawon, gwarchodwyr plant, gofalwyr a gwarcheidwaid; gweision cyhoeddus sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod plant gweithwyr allweddol yn parhau’n hapus a diogel.
“Maen nhw’n rhoi cymorth amhrisiadwy i’n staff rheng flaen yn y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, sydd i’w groesawu’n fawr mewn cyfnod mor anodd.
“Hefyd, rwy’n canmol eu hymrwymiad parhaus i sicrhau bod gwaith a gweithgareddau ar gael yn barod i’r myfyrwyr hynny sy’n gorfod aros gartref.
“Wrth arwain o’r blaen, mae llawer bellach yn dymuno efelychu eu hysbryd cymunedol. Rwyf wedi fy nghyffwrdd gan yr holl etholwyr sydd wedi cysylltu â’m swyddfa i gynnig eu hamser a’u cymorth i gymdogion bregus.
“I roi help llaw, ffoniwch Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 01492 575544 neu gwnewch gais drwy’r arolwg ar fy ngwefan.
"Mae’n hollbwysig ein bod ni’n dal i gyfathrebu gyda’n gilydd yn ystod y cyfnod hwn. Gofynnaf ar bawb ohonom i neilltuo rhan o’n diwrnod i ffonio neu wneud galwad fideo i’n cymdogion neu berthnasau sydd mewn perygl, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n iach, yn hapus a chyfforddus.
DIWEDD