Mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Pobl Ifanc a Phobl Hŷn yr Wrthblaid – yn atgoffa pawb bod drysau adrannau achosion brys yn dal ar agor i’r rhai sydd angen gofal ar unwaith. Daw hyn ar ôl y newyddion bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gweld y nifer isaf erioed o unigolion mewn Unedau Damweiniau ac Achosion Brys ym mis Ebrill.
Yn rhoi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Mrs Finch-Saunders:
"Mae ein cymuned wedi dod at ei gilydd i gefnogi gweithwyr rheng flaen ac ysgafnhau’r pwysau ar y Gig yn ystod y pandemig hwn.
“Un lle sy’n gweld effaith ein hymdrech genedlaethol yw ein hadrannau damweiniau ac achosion brys.
“Roedd nifer y cleifion a aeth i adrannau damweiniau ac achosion brys yn y Gogledd ym mis Ebrill i lawr 56% ar yr un mis y llynedd.
“Mae’r ffaith fod dros 10,00 yn llai wedi mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn awgrymu o bosib nad yw rhai yn gwybod bod y gwasanaeth ar agor, ac nad oes angen dioddef pan fo cymorth ar gael i’r bobl sydd wirioneddol ei angen.
“Ffoniwch 999 neu ewch i’ch adran achosion brys leol os ydych chi’n poeni go iawn. Peidiwch â’i gadael hi’n rhy hwyr”.
DIWEDD
Nodiadau: