Heddiw, mae’r Aelod o’r Senedd, Janet Finch-Saunders – Gweinidog Gofal Cymdeithasol a hyrwyddwr Pobl Hŷn yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi annog Llywodraeth Cymru i ddechrau profi preswylwyr cartrefi gofal asymptomatig ar unwaith.
Yn ystod cwestiynau'r cyfarfod llawn heddiw i Vaughan Gething AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, siaradodd Aelod Aberconwy am y ‘lefel ddigynsail’ o ohebiaeth y mae wedi’i derbyn gan unigolion sy’n bryderus am ba mor fregus yw preswylwyr cartrefi gofal.
O’r 302 o farwolaethau a gofrestrwyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru, mae 119 wedi’u cofrestru fel rhai cysylltiedig â COVID-19. Mewn un cartref gofal yng Nghasnewydd, mae 15 o breswylwyr wedi marw mewn mis. Er bod 14 o breswylwyr wedi dweud eu bod yn pesychu a bod ganddyn nhw wres, dim ond ar dystysgrif marwolaeth dau y mae COVID-19 wedi’i nodi.
Yn siarad ar ôl ei hymddangosiad yn y cyfarfod llawn rhithwir, dywedodd Janet:
“O ystyried y lefel dorcalonnus o farwolaethau yn ein cartrefi gofal, rwy’n croesawu’r newyddion bod Gweinidog Iechyd Cymru am weld profion ar gael i bob preswylydd cartref gofal.
“Mae’n hollbwysig profi preswylwyr asymptomatig. Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn gwybod hyd a lle yr haint mewn cartrefi gofal a’r gyfran o breswylwyr sydd wedi’u heffeithio.
“Mae preswylwyr cartrefi gofal yn garfan fregus iawn, yn byw mewn amgylchedd a all annog trosglwyddiad haint rhwng trigolion sydd mewn perygl.
“Bydd profi holl breswylwyr cartref gofal asymptomatig ar unwaith ddim yn unig yn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu, ond bydd hefyd yn diogelu ein staff rheng flaen anhunanol.
DIWEDD