Heddiw (1 Mai), mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid – wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd yn rhoi bonws unigol o £500 i staff gofal cymdeithasol.
Meddai:
“Rydw i wedi bod yn galw am well cymorth a chydnabyddiaeth i’r 64,000 o bobl sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol ers cryn amser, ac mae’n braf iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar fy ngalwad i’w gwobrwyo.
“Fodd bynnag, mae angen ystyried hyn yng nghyd-destun y wobr mae porthorion a glanhawyr ysbyty maes Calon y Ddraig yng Nghaerdydd wedi’i gael gan GIG Cymru. Bydd y bobl hyn yn gwneud gwaith anodd ac emosiynol dros ben – yn union fel gweithwyr gofal.
“Bydd porthorion a glanhawyr Calon y Ddraig ar £12.75 i £13.75 yr awr (tua £4 i £5 yn uwch na’r isafswm cyflog) gyda’r potensial am fonws o £2 yr awr am bob awr sydd eisoes wedi’i weithio os ydynt yno am fwy na thri mis. Gan ragdybio cyfradd o £4 yr awr dros yr isafswm cyflog am 40 awr yr wythnos, byddant yn derbyn o leiaf £640 ychwanegol y mis.
“Felly, o gymharu, dyw’r taliad unigol o £500 i’n gweithwyr gofal gwych, sy’n gwneud cymaint i’n hanwyliaid o ddydd i ddydd, ddim yn ymddangos mor hael wedi’r cyfan.
“Felly, mae’n rhaid ystyried hyn fel y cam cyntaf ac nid diwedd y daith o ran y gydnabyddiaeth y mae’r bobl ymroddedig hyn yn ei haeddu, felly byddaf yn dal ati i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddilyn yr ymrwymiad hwn gyda mwy o weithredu, ac o fewn amserlenni.”
DIWEDD