Heddiw (3 Mehefin) gofynnodd Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - i Weinidog Iechyd Cymru egluro’r oedi ar hyn o bryd gan ei weinyddiaeth i gyflwyno profion gofal cymdeithasol.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymestyn profion gofal cymdeithasol ar 16 Mai 2020, ond nododd Aelod Aberconwy y bydd yn rhaid i rai cartrefi gofal yn y Gogledd aros tan o leiaf 8 Mehefin 2020 tan i’r holl breswylwyr a staff gael eu profi.
Dywedodd hefyd mai dim ond 8 gweithiwr cartref nyrsio/awdurdod lleol ar gyfartaledd a gafodd eu profi bob diwrnod ar safle profion Llandudno rhwng 29 Ebrill a 28 Mai.
Mae’r sefyllfa yng nghartrefi gofal Cymru wedi sbarduno Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i gyfeirio Llywodraeth Cymru at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan bwysleisio bod yr oedi o ran cynnal profion yn achos pryder difrifol.
Yn siarad ar ôl y sesiwn cyfarfod llawn rhithwir, dywedodd Janet:
“Mae’r oedi wrth gyflwyno rhaglen profion gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn gwbl annerbyniol. Mae’r cyd-anwybodaeth yn sgil yr oedi hwn yn fygythiad wirioneddol enfawr i iechyd a lles preswylwyr a staff rheng flaen.
“Caiff fy mhryderon ddim ond eu dwysau wrth i chi ystyried fod Gweinidogion Cymru wedi arwain system oedd ar y dechrau yn rhyddhau cleifion o’r ysbyty i gartrefi gofal heb gynnal profion COVID-19 priodol yn gyntaf.
“Rydw i wedi anobeithio gyda’r anghydraddoldeb cyson o ran profion rhanbarthol. Ni all fod yn iawn y bydd rhai cartrefi gofal ledled y Gogledd yn aros am dros dair wythnos am brofion.
“Rydw i wedi erfyn dro ar ôl tro ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod cydraddoldeb o ran profion, lle bynnag fo’r lleoliad a beth bynnag fo maint y gymuned. Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru gefnogi eu geiriau gwag gyda gweithredu pendant.
“Mae angen i ni wybod ymhle mae’r achosion COVID-19, er mwyn i ni ddeall yn iawn ddifrifoldeb y clefyd yma yn y Gogledd, sy’n barod yn un o’r ardaloedd sydd wedi’i heffeithio waethaf yng Nghymru.”
DIWEDD