Yn ymateb i’r cyhoeddiad y bydd profion Coronafeirws COVID-19 yn cael eu hymestyn i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal, dywedodd Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid:
“Mae gan gartrefi gofal rai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas a dyna pam fy mod wedi bod yn annog Llywodraeth Cymru ers wythnosau i ymestyn profion Coronafeirws i gynnwys holl breswylwyr a staff cartrefi gofal.
“Fel y dywedais ar y pryd, gall ymestyn y profion mewn cartrefi gofal leihau lledaeniad Covid-19 ymysg ein pobl mwyaf bregus a’n staff anhygoel.
“Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru ateb fy ngalwadau, ond mae’n warthus na ellid wedi ymestyn y profion yn gynt o ystyried bod mwy o gapasiti o ran profion.”
DIWEDD