Mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid - wedi ymateb i’r ffigurau diweddaraf sy’n gysylltiedig â marwolaethau mewn cartrefi gofal a gyhoeddwyd heddiw (12 Mai) ac wedi dweud eu bod yn peri gofid.
Mae’r ffigurau, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar wybodaeth gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), yn dangos bod cynnydd o 98 y cant o 1,093 marwolaeth i 2,165
mewn cartrefi gofal oedolion ers 1 Mawrth eleni o gymharu â’r un cyfnod yn 2019. Mae’r ffigurau yn cynnwys marwolaethau o bob achos.
Meddai Mrs Finch-Saunders:
“Mae AGC wedi’i hysbysu bod 504 o farwolaethau mewn cartrefi gofal preswyl yn sgil COVID-19, neu fod amheuaeth o hynny, sy’n cyfrif am oddeutu 23 y cant o’r holl farwolaethau yn ystod y cyfnod hwn, ac roedd 173 o’r rhain wedi’u cadarnhau gyda’r 331 arall dan amheuaeth o hyd.
“Ar y wyneb, mae’r ffigurau hyn yn achosi pryder mawr, ac yn gofyn am ymchwilio ymhellach. Maent yn awgrymu bod angen gwneud ymdrech gydunol i ddiogelu preswylwyr a staff cartrefi gofal oedolion, ac mae’n pwysleisio pwysigrwydd profion llawn.”
DIWEDD