Heddiw (29 Ebrill), bu Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd, yn croesholi’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod sesiwn rithwir y Cyfarfod Llawn ynglŷn â’r £40 miliwn sydd wedi’i ddyrannu i’r sector gofal cymdeithasol i oedolion.
Dywedodd Gweinidog yr Wrthblaid bod rhai cartrefi gofal wedi colli cymaint â 60 y cant o’u preswylwyr, gyda rhai yn gweld lefelau meddiannu gwelyau mor isel â 20 y cant. Ychwanegodd fod yn rhaid i gartref gofal fod â chyfradd lenwi o 90 y cant i barhau’n hyfyw, gydag unrhyw beth dan 86 y cant yn anghynaliadwy.
Meddai Mrs Finch-Saunders:
“Mae rhai cartrefi gofal wedi gorfod hyd yn oed troi at lansio eu hapeliadau ar-lein, defnyddio arian wrth gefn, ac mae eraill yn ystyried cau. Yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd Fforwm Gofal Cymru y gallai hanner y 650 o gartrefi gofal yng Nghymru gau.
Ni allwn adael i hyn ddigwydd. Mae Cartrefi Gofal yng Nghymru yn elfen hollbwysig o’r system iechyd bob amser, ac yn ysgafnhau’r pwysau ar gynghorau a’r GIG, gan helpu i sicrhau bod mwy o welyau ar gael yn ein hysbytai.
“Mewn Datganiad Ysgrifenedig yn ddiweddar ar y cymorth ariannol gwerth £40 miliwn sydd ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, dywedodd y Gweinidog bod potensial i wneud dyraniadau pellach – yn dibynnu ar drywydd yr argyfwng.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru - nawr yn fwy nag erioed - egluro’n glir pa ddulliau ariannol pellach y bydd yn eu cymryd, gan y byddai methu â gweithredu a gadael i’r cartrefi gofal hyn gau yn achosi niwed difrifol i’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
“Ni allwn adael i hyn ddigwydd.”
DIWEDD