Heddiw (10 Mehefin), bu Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Gofal Cymdeithasol Gwrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – yn mynegi ei phryderon ynghylch polisi 28 diwrnod rhydd o Covid Llywodraeth Cymru, wrth i swyddogion gofal honni nad oedden nhw wedi bod yn rhan go iawn o’r ymgynghori pan luniwyd y polisi. Daw ei galwad ar ôl i Fforwm Gofal Cymru rybuddio y gallai hyd at hanner y cartrefi gofal yng Nghymru fod mewn perygl o gau yn sgil goblygiadau ariannol y polisi.
Mae Mrs Finch-Saunders hefyd wedi mynegi pryderon am y polisi profion wythnosol ar ôl i ddatganiad gan Vaughan Gethin AS ymddangos fel ei fod yn nodi y byddai profion wythnosol yn cael eu cyfyngu i staff cartrefi gofal cymdeithasol yn unig.
Wrth siarad ar ôl ei chwestiynau i’r Prif Weinidog, dywedodd Janet:
“Mae’n dristwch mawr i mi y gallai Llywodraeth Cymru feddwl ei bod yn syniad da rhoi rheol ar waith heb ymgynghori â’r sector yn gyntaf. Nid yw cyflwyno’r polisi 28 diwrnod rhydd o Covid wedi ystyried cymhlethdod y sector a’r cyfyngiadau y mae llawer o gartrefi yn eu hwynebu.
“Mae swyddogion gofal wedi bod yn gyson yn eu rhybuddion y bydd cwtogi ar niferoedd pobl mewn cartrefi gofal yn hoelen olaf yn yr arch i sawl cartref sydd mewn trafferthion. Mae dull diog aml-bwrpas y Gweinidog yn gwirioneddol beryglu dyfodol sawl cwmni.
“Rydw i hefyd yn bryderus gyda’r ffordd y cyflwynwyd rhaglen brofion wythnosol Llywodraeth Cymru. Dro ar ôl tro, mae staff gofal cymdeithasol wedi cysylltu â mi yn dweud eu bod wedi aros am ddyddiau i dderbyn canlyniadau eu profion. Mae angen datrys hyn cyn y gall y rhaglen lwyddo.
“Roedd datganiad ysgrifenedig Gweinidog Iechyd Cymru ddoe yn datgan y bydd y cynllun ar gyfer staff cartrefi gofal yn unig. Rwy’n galw ar ei weinyddiaeth i gyflwyno cyfundrefn brofi eang sydd hefyd yn cynnwys preswylwyr cartrefi gofal, er mwyn sicrhau iechyd a llesiant pawb yn y cartrefi.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Datganiad Vaughan Gething AS (9 Mehefin): “O ddydd Llun 15 Mehefin, bydd pob aelod o staff cartrefi gofal yn cael cynnig prawf wythnosol am gyfnod o bedair wythnos.”