Heddiw (13 Mai), mae Janet Finch-Saunders - Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi annog Llywodraeth Cymru i egluro pryd y bydd y bonws o £500 i staff gofal cymdeithasol yn cael ei ddyrannu.
Daw ei chwestiwn yn sgil dryswch gan awdurdodau lleol, sydd wedi cadarnhau nad oes unrhyw feini prawf na chanllawiau wedi’u cyhoeddi ar sut y bydd arian cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu. Yn ei ymateb i’r cwestiwn, symudodd Vaughan Gething AS i gadarnhau bod trafodaethau parhaus ynghylch ‘telerau ac amodau’ y taliad. Mae Mrs Finch-Saunders, Aelod Aberconwy, wedi galw yn y gorffennol am i'r cynllun gael ei ymestyn i gefnogi byddin hael Cymru o ofalwyr di-dâl.
Yn siarad am ei chyfraniad i’r sesiwn cyfarfod llawn rhithwir, dywedodd Janet:
“Er fy mod yn falch o ganfod bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar fy ngalwad i wobrwyo ein staff gofal cymdeithasol rheng flaen, mae’n rhaid i Weinidogion weithio’n galetach i gadarnhau sut a phryd y bydd yr arian hwn yn cael ei ddosbarthu.
“Mewn cyfnod o bwysau sylweddol ar ein hawdurdodau lleol, mae’n gwbl annerbyniol bod dryswch o hyd. Mae’r cyrff hyn yn haeddu esboniad ac rwy’n erfyn ar Weinidog Iechyd Cymru i sicrhau ei fod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gynghorau ar yr holl ddatblygiadau.
“Mae ein gweithwyr gofal cymdeithasol yn gwneud gwaith llafurus ac emosiynol iawn. Mae data a gyhoeddwyd yr wythnos hon wedi dangos eto’r risg gynyddol a ddaw yn sgil COVID-19 i’n rhoddwyr gofal rheng flaen. Maen nhw’n haeddu cael eu gwobrwyo.
“Rwyf hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymestyn ei hymrwymiad bonws i ysgafnhau’r baich ar ofalwyr di-dâl, sy’n rhoi gofal o waelod eu calon i’w hanwyliaid.”
DIWEDD