Ar ôl i breswylwyr a swyddogion lleol fynegi pryderon, mae Aelod o’r Senedd Aberconwy - Janet Finch-Saunders - heddiw (12 Mai) wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ddatrys problemau parhaus gyda chynllun dosbarthu parseli bwyd y weinyddiaeth.
Yn y gorffennol, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddai bocs bwyd am ddim ar gael i’r rhai sydd wedi’u categoreiddio’n fregus iawn ac yn methu galw am gymorth gan ffrindiau, teulu neu gymydog. Mae’r bocsys bwyd, y mae pobl yn gofyn amdanynt gan eu hawdurdod lleol, yn cynnwys bwydydd hanfodol mewn pecynnau a thuniau. Maent yn darparu digon o fwyd i un unigolyn sy’n hunanynysu am wythnos.
Yn ôl yr ystadegau a ddarparwyd i’r Aelod, o’r 138 o barseli a archebwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, dim ond 105 sydd wedi’u dosbarthu’n llwyddiannus.
Wrth siarad am y sefyllfa, dywedodd Janet Finch-Saunders:
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddatrys y problemau gyda’r cynllun dosbarthu bwyd ar unwaith, cyn ehangu ei feini prawf cymhwyster.
"Dro ar ôl tro, mae preswylwyr Gogledd Cymru wedi rhoi gwybod am achosion o fethu dosbarthu parseli bwyd, dosbarthu i gyfeiriadau anghywir, neu Lywodraeth Cymru yn tynnu enwau oddi ar y rhestr a ddylai fod yn gymwys am y cymorth hwn. Mae’n rhaid i ni wneud pethau’n well.
"Rwyf hefyd yn ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ofyn i Weinidogion Cymru ystyried darparu parseli bwyd ychwanegol i awdurdodau lleol i’w cadw wrth gefn. Byddai hyn yn golygu y byddai modd i’n swyddogion cyhoeddus sy’n gweithio mor galed drefnu bod bwyd yn cael ei ddosbarthu iddyn nhw mewn argyfwng os yw unigolyn sy’n dibynnu ar y cymorth ddim yn derbyn y gwasanaeth.
DIWEDD