Heddiw (7 Mai), mae Aelod Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - wedi bod yn holi’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ynghylch y gwahaniaeth rhanbarthol o ran amseroedd aros am brofion COVID-19. Yn ôl arolwg ar-lein diweddar gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru, dim ond 36% o ymatebwyr yn y Gogledd dderbyniodd ganlyniadau eu profion o fewn dau ddiwrnod. Mae hyn o’i gymharu â 59% yng Nghanol De Cymru. Hefyd, dywedodd 52% o ymatebwyr o’r Gogledd eu bod yn aros hyd at bum niwrnod i dderbyn eu canlyniadau.
Wedi’i syfrdanu gyda’r gwahaniaeth, mae Mrs Finch-Saunders wedi cyflwyno Cwestiwn Ysgrifenedig i’r Senedd i Vaughan Gething AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Yn ei chwestiwn, gofynnodd Aelod Aberconwy:
Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau rhanbarthol mewn amseroedd aros am ganlyniadau profion COVID-19 a brofir gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen?
Wrth drafod y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Siom o’r mwyaf oedd clywed bod staff iechyd a gofal cymdeithasol y Gogledd sy’n gweithio mor galed yn gorfod aros yn llawer hirach ar gyfartaledd am ganlyniadau eu profion COVID-19, o gymharu â rhanbarthau eraill.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn esgeulus iawn o ran profi. Gofynnaf i’r Gweinidog fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn ar unwaith.
“Dylid cael proses brofion effeithlon ledled Cymru, gan sicrhau nad oes unrhyw ranbarth dan anfantais. Mae hyn yn hollbwysig os ydym am gael y staff rheng flaen iach ac abl hynny yn ôl yn y gwaith cyn gynted â phosibl, gan sicrhau bod gan ein byrddau iechyd ddigon o staff ar waith gydol y pandemig presennol.
“Heb sicrhau’r un tegwch ledled rhanbarthau Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi bywydau staff a chleifion mewn mwy o berygl, a hynny’n ddiangen.
DIWEDD