Mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid - eto wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch cynnal profion COVID-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Yn dilyn adroddiad i’r cyfryngau heddiw (8 Mehefin), lle’r oedd perchennog cartref gofal yn y Gogledd wedi tynnu sylw at oedi gyda phrofion i staff a phreswylwyr, dywedodd Mrs Finch-Saunders:
“Dim ond wythnos diwethaf yn y Cyfarfod Llawn fe bwysleisiais fy mhryderon dwys gyda threfn cynnal profion yng Nghymru, a’r gwahaniaeth rhwng y De a’r Gogledd. Nawr rydym yn clywed am weithiwr mewn cartref gofal yn y Gogledd yn gorfod aros am 70 awr i gael y canlyniadau.
“Mae’r oedi a’r gwahaniaeth yn bygwth iechyd a llesiant preswylwyr a staff rheng flaen.
“Mae un ar ddeg wythnos o’r pandemig wedi pasio ond eto mae yna nifer sylweddol o breswylwyr cartrefi gofal heb gael eu prawf cyntaf, ac mae’r rhai sydd wedi cael prawf yn gorfod aros yn rhy hir am y canlyniadau. Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i wir afael â bygythiad COVID-19 i’r bobl fwyaf bregus yn ein cymuned, neu bydd mwy o bobl yn marw.
“Mae camgymeriadau wedi eu gwneud, ond mae’n hollbwysig bod pawb sy’n rhan o’r prosesau profi yn dysgu o’r camgymeriadau hyn. Os na ddysgwn ni, rwyf finnau hefyd yn ofni y gwelwn ni ail don o achosion yn hwyrach eleni.”
DIWEDD