Heddiw (11 Mai), mae Janet Finch-Saunders – Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi mynegi ei phryder ynghylch yr ystadegau sy’n dangos bod risg gynyddol o farw i weithwyr gofal cymdeithasol yn sgil COVID-19, o gymharu â galwedigaethau eraill. Dengys dadansoddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod gan weithwyr gofal gyfraddau uchel iawn o farwolaeth yn sgil COVID-19, gyda chyfraddau o 23.4 marwolaeth fesul 100,000 dyn (45 marwolaeth) a 9.6 marwolaeth fesul 100,000 menyw (86 marwolaeth). Mae’r data dros dro hefyd yn dangos lefel uwch o risg i weithwyr gofal cymdeithasol gwrywaidd o gymharu â menywod.
Mae’r diwydiant gofal cymdeithasol yn parhau i gael ei effeithio’n arw gan y pandemig. Cofrestrwyd cyfanswm o 131 o farwolaethau gweithwyr gofal cymdeithasol yn sgil COVID-19 yng Nghymru a Lloegr hyd at, ac yn cynnwys, 20 Ebrill 2020.
Yn trafod yr ystadegau, meddai Janet Finch-Saunders AS:
“Mae dadansoddiad diweddar ONS yn peri gofid mawr i mi gan ei fod yn dangos risg gynyddol o farwolaeth ymysg gweithwyr gofal cymdeithasol, o gymharu â galwedigaethau eraill.
Yr un mor frawychus yw’r gwahaniaeth mewn cyfraddau marwolaeth rhwng y ddau ryw, gydag ystadegau’n dangos bod dynion sy’n weithwyr gofal cymdeithasol mewn risg uchel iawn.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried y data hwn o ddifrif ac ymateb yn gynt. Mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi blaenoriaeth glir i ddiogelu ein gweithwyr gofal cymdeithasol, trwy gynyddu profion ledled pob cartref gofal preswyl a hwyluso ceisiadau am gyfarpar diogelu personol.
“Mae’n rhaid i ni gyd gofio mai gofalwr hael a oedd yn gweithio’n galed sydd wrth wraidd pob ystadegyn. Mae fy nghalon yn gwaedu dros y rhai sydd wedi colli ffrind, cydweithiwr, brawd neu chwaer neu blentyn.
DIWEDD