Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is extremely frustrated that it has taken nearly a year and a half for an outdoor public pool to be refurbished.
The public paddling pool in Craig-y-Don has been closed for 660 days. Progress on the works has stalled significantly, moving at an incredibly slow pace, with concerns about people slipping being raised.
Despite the paddling pools in Rhos-on-Sea, Llanfairfechan and Penmaenmawr reopening several weeks ago, no opening date has been slated for the Craig-y-Don pool.
During the warmer months the pool is normally packed with children and families enjoying the cool water while basking in the North Wales sunshine.
Following this, Janet will be writing into Conwy County Borough Council to ask when the pool is planned for completion.
Commenting on the news Janet said:
“This saga has been going on for months now. I was informed by the leader of Conwy County Borough Council a year ago that the pool was weeks away from being finished.
“This is extremely frustrating. All the beautiful weather we've had could have been perfect for people to enjoy a wonderful day at the pool.
“Day after day after day, I am getting lots of enquiries from constituents asking when they will get their pool back.
“This is why I have called on Councillor Aaron Wynne, and I will be writing to the Council to request a statement with a completion date for the work.”
ENDS
Video: Janet Finch-Saunders MS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy yn rhwystredig iawn ei bod wedi cymryd bron i flwyddyn a hanner i adnewyddu pwll cyhoeddus awyr agored.
Mae'r pwll padlo cyhoeddus yng Nghraig-y-Don wedi bod ar gau am 660 diwrnod. Mae'r cynnydd gyda’r gwaith wedi arafu'n sylweddol, gan symud ar gyflymder anhygoel o araf, gyda phryderon am bobl yn llithro.
Er bod y pyllau padlo yn Llandrillo-yn-rhos, Llanfairfechan a Phenmaenmawr wedi ailagor sawl wythnos yn ôl, does dim dyddiad agor wedi’i gyhoeddi ar gyfer pwll Craig-y-Don.
Yn ystod y misoedd cynhesach, gan amlaf mae'r pwll yn llawn plant a theuluoedd yn mwynhau'r dŵr oer wrth wneud y gorau o heulwen Gogledd Cymru,.
Yn dilyn hyn, bydd Janet yn ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ofyn pryd y bwriedir cwblhau'r gwaith ar y pwll.
Wrth sôn am y newyddion dywedodd Janet:
“Mae'r saga hon wedi llusgo yn ei blaen ers misoedd bellach. Cefais wybod gan arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy flwyddyn yn ôl fod y pwll o fewn wythnosau i gael ei orffen.
“Mae hyn yn rhwystredig tu hwnt. Gallai'r holl dywydd braf rydym wedi’i gael fod wedi bod yn berffaith i bobl fwynhau diwrnod penigamp yn y pwll.
“Ddydd ar ôl dydd, rwy'n cael ymholiadau lu gan etholwyr yn gofyn pryd y byddan nhw’n cael eu pwll yn ôl.
“Dyna pam rwyf wedi galw ar y Cynghorydd Aaron Wynne, a byddaf yn ysgrifennu at y Cyngor i ofyn am ddatganiad gyda dyddiad cwblhau ar gyfer y gwaith.”
DIWEDD
Fideo: Janet Finch-Saunders AS