Mae Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog Llywodraeth Cymru i efelychu ymrwymiad Llywodraeth y DU i adfer bioamrywiaeth, gan ddweud bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol arfaethedig yn ‘gwneud cam â’n cymunedau gwledig.’
Mae Llywodraeth y DU yr wythnos hon wedi addo cynyddu cyfanswm y tir gwyrdd gwarchodedig yn Lloegr o 26% i 30% erbyn 2030. Defnyddiodd Mrs Finch-Saunders araith yn y Senedd yr wythnos hon i annog Llywodraeth Cymru i efelychu’r cyhoeddiad polisi hwn, gan alw am ddiogelu’r Gymru wledig ‘drwy ehangu neu greu parciau cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.’
Wrth sôn am yr alwad i adfer bioamrywiaeth Cymru, dywedodd Janet:
“Wrth i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol gael ei ystyried, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud ymrwymiad penodol ar frys i gynyddu’r cyfanswm o fannau gwyrdd gwarchodedig yng Nghymru. Gyda cholli bioamrywiaeth fyd-eang yn digwydd ar raddfa frawychus, dyma gyfle i Gymru arwain y byd o ran gwarchod tir gwyrdd.
“Mae’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn cynnig cyfle heb ei ail i ehangu’r 4% o dir Cymru sydd wedi’i gategoreiddio fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a’r 19.9% o dir sy’n rhan o’n tri Pharc Cenedlaethol.
“Fodd bynnag, yn hytrach na defnyddio’r 600 a mwy o afonydd sy’n llifo ledled Cymru yn synhwyrol i annog buddsoddi mewn cynlluniau ynni dŵr micro a bach, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig codi mwy o ffermydd gwynt ar dir bioamrywiol yn y canolbarth. Y cyfan a wnaiff hyn yw llesteirio camau i achub ein meysydd gwyrdd a’u hecosystemau cymhleth.
“Rhaid i lais ein trigolion gwledig gael ei glywed fel rhan o’r cynllun hwn, ac maen nhw’n poeni’n fawr am golli cynefinoedd naturiol a mannau gwyrdd agored Cymru. Fel y mae, mae’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn brin o uchelgais, ac mae’n rhaid iddo fynd ymhellach fel y gall Cymru fynd ati i adfer ein bioamrywiaeth.”
DIWEDD