Mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog yr Wrthblaid dros Ofal Cymdeithasol, wedi pwyso ar y Prif Weinidog i fynd i’r afael â methiant cynllun gwella iechyd y geg Llywodraeth Cymru, Gwên am Byth. Mae hyn yn dilyn gwaith ymchwil gan Janet Finch-Saunders sy’n dangos nad oedd gan tua 4,600 o breswylwyr cartrefi gofal sy’n cymryd rhan yn y rhaglen gynllun iechyd y geg ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ym mis Mawrth 2019.
Ar gyfer y flwyddyn adrodd yn dod i ben ym mis Mawrth 2019, roedd 10,228 o breswylwyr mewn 287 o gartrefi gofal yn cymryd rhan yn llawn yn y rhaglen Gwên am Byth. Roedd cynllun gofal y geg ar waith ar gyfer 55% (5,670) o’r preswylwyr hyn.
Ar ôl codi’r mater yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog, meddai Gweinidog yr Wrthblaid:
“Rwy’n falch bod y Prif Weinidog wedi cydnabod bod pethau bach iawn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau preswylwyr cartrefi gofal.
“Mae hyn yn cynnwys gofal deintyddol da, ac rwy’n croesawu’r ffaith fod y cynllun Gwên am Byth yn ceisio sicrhau bod staff yn derbyn hyfforddiant mewn gofal y geg, bod asesiadau risg iechyd y geg yn cael eu cwblhau, bod cynlluniau gofal unigol yn cael eu paratoi, a bod preswylwyr cartrefi gofal yn derbyn adnoddau gofal y geg priodol ar gyfer eu cynllun gofal.
“Gallai’r gofynion fod mor syml â sicrhau bod brwsh dannedd a phast dannedd fflworid uchel ar gael.
“Ar ôl ymweld â nifer o gartrefi gofal, rwyf wedi gweld pobl yn gwneud ymdrech fawr i ofalu am y preswylwyr a gwneud iddynt deimlo’n gartrefol.
“Fodd bynnag, rwy’n poeni mai dim ond 55% o breswylwyr yn y 287 o gartrefi sy’n cymryd rhan yng nghynllun Llywodraeth Cymru sydd â chynllun iechyd y geg llawn ar waith.
“Mae’n hawdd iawn i’r Prif Weinidog ddweud bod arian ychwanegol wedi’i ddarparu ar gyfer y rhaglen, a’i bod yn cael ei chyflwyno i bob cartref gofal yng Nghymru yn ystod 2020/21.
“Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod angen mynd i’r afael ag un elfen sy’n methu ar hyn o bryd: y ffaith nad oes cynllun iechyd y geg yn cael ei roi ar waith ar gyfer holl breswylwyr y cartrefi gofal sy’n cymryd rhan yn y cynllun eisoes”.
Nodiadau:
Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwella Cartrefi Gofal Cymru
Datganiad Ysgrifenedig: Mwy o gyllid i raglen iechyd y geg Gwên am Byth