Gyda'r ymgyrch i sicrhau targed sero-net erbyn 2050 yn arwain at dwf mewn ffermydd gwynt ar y môr, a Chymru'n chwarae rhan allweddol yn y sector hwn o'r chwyldro gwyrdd, mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, wedi herio Llywodraeth Cymru i gymryd camau i asesu effaith datblygiadau ffermydd gwynt ar raddfa fawr ar fywyd morol a'r diwydiant pysgota yma yng Nghymru.
Wrth ymateb i gwestiwn ysgrifenedig Gweinidog yr Wrthblaid, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James AS wedi dweud bod swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall yr effeithiau posibl ac yn cysylltu â diwydiant a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Defra ac Ystad y Goron ac yn cyfrannu at fentrau ymchwil y DU.
Wrth sôn am ymateb Llywodraeth Cymru, dywedodd Janet:
“Y llynedd, fe wnaeth Cymru ddatgan argyfwng natur a gallwn ni ddim gadael i'r polisi hwnnw gael ei foddi gan ddatblygiadau ar y môr.
“Fel y noda'r Gweinidog yn gywir, rhagwelir twf sylweddol mewn ynni gwynt ar y môr ac mae pryderon y gallai hyn gael effeithiau andwyol ar bysgod a physgodfeydd.
“Rwy'n croesawu'r ffaith bod swyddogion Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio gyda'r diwydiant, CNC, Defra ac Ystad y Goron i ddeall yr effaith bosibl.
"Hoffem weld dyfodol cynaliadwy i'n pysgodfeydd a'n pysgod, felly rwy'n gobeithio'n fawr y bydd deall yr effaith bosibl yn arwain at bolisïau i liniaru unrhyw effaith negyddol.
Mae'r potensial ynni gwynt ar y môr yng Nghymru yn cynnwys tua 4GW o ddatblygiadau gwynt ar y môr ychwanegol oddi ar arfordir y Gogledd, a'r potensial i gynhyrchu 70GW o drydan o fferm wynt arnofiol yn y Môr Celtaidd.
DIWEDD
Cwestiwn Ysgrifenedig:
Janet Finch-Saunders AS:
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i asesu effaith datblygiadau ffermydd gwynt ar raddfa fawr ar y diwydiant pysgota yng Nghymru?
Ymateb gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
‘Significant growth in offshore wind is anticipated and I am aware of concerns there may be about adverse effects on fish and fisheries.
As the industry increases in size and moves further offshore, and as new floating offshore wind is developed, the nature of impacts may change and it will be important to understand these.
Officials are working with partners to understand the potential effects and are liaising with industry and with NRW, Defra and the Crown Estate and contributing to UK research initiatives.
Offshore wind developers consult the fishing industry early when developing plans and the reduction of impacts on established uses, such as fishing, is a consenting consideration’.