I nodi Diwrnod Aer Glân 2021, mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn pwyso ar ei weinyddiaeth i adolygu’r amserlen reoleiddio arfaethedig fel y nodir dan ei ymgynghoriad Papur Gwyn ac i roi argymhellion astudiaeth newydd ar waith, a ysgrifennwyd ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, i helpu i hybu teithio llesol.
O ystyried y diffyg ateb cadarn ddydd Mawrth, mae’r Aelod dros Aberconwy wedi gofyn hefyd i Lywodraeth Cymru ddadwneud toriad termau real mewn cyllid i weithredu ar aer glân sydd wedi’i weld yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae’r cyllid refeniw o £3.4 miliwn a’r cyllid cyfalaf o £17 miliwn, a ddyrannwyd ar gyfer cymryd camau ansawdd aer yn 2021-22 yn ostyngiad o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Wrth roi sylwadau ar ei llythyr, dywedodd Janet:
“Dylem gydnabod, ar Ddiwrnod Aer Glân eleni, bod consensws trawsbleidiol gwirioneddol bod angen gweithredu a deddfu. Er mwyn adeiladu’n gadarnhaol ar y momentwm hwn, rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am fwy o fuddsoddiad ac adolygiad o’r amserlen reoleiddio arfaethedig.
“Fel y dywedais yn glir yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mawrth, mae gennym Lywodraeth Cymru sydd wedi datgan argyfwng hinsawdd ond sydd bellach wedi gwneud gostyngiad yn y cyllid mewn termau real o ran gweithredu ar aer glân. Prin fod y diffyg cysondeb hwn yn rhoi llawer o gysur i ni wrth geisio ailadeiladu’n wyrddach ac felly mae’n rhaid mynd i’r afael â hyn.
“Mae camau eraill y gellir eu cymryd nawr hefyd. Wrth i astudiaeth newydd ganfod y bydd rhoi blaenoriaeth i fynediad at deithio llesol yn ganolog i unrhyw gynllun i leihau llygredd aer, rwyf wedi gofyn i’r weinyddiaeth weithredu’r argymhellion hyn fel ffordd o annog y defnydd o opsiynau amgen o ran cludiant gwyrdd. Mae hyn yn rhywbeth y mae llawer o drigolion lleol am ei weld.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae copi o lythyr Janet at y Prif Weinidog ynghlwm.
- Yn ystod cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ddeddf Aer Glân Cymru'r wythnos diwethaf, etholwyd Janet Finch-Saunders AS yn Is-gadeirydd.
- Mae’r astudiaeth y cyfeirir ati ar gael yma.
Llun: Janet Finch-Saunders AS