Ar ôl ymgyrchu ers blynyddoedd dros gyfyngiadau cyflymder 20mya mewn cymunedau, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi croesawu ymgynghoriad i i leihau terfynau cyflymder. Nod Llywodraeth Cymru yw lleihau'r terfyn cyflymder o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig, sydd fel arfer wedi'u lleoli mewn cymunedau preswyl ac ardaloedd adeiledig ledled y wlad.
Gallai lleihau'r terfyn cyflymder:
- lleihau nifer a difrifoldeb damweiniau ffyrdd
- cynnig mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein broydd
- helpu i wella iechyd a lles i bawb
- gwneud ein strydoedd yn fwy diogel a helpu i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Wrth groesawu'r ymgynghoriad, dywedodd Janet:
“Mae gostwng terfynau cyflymder i ugain yn synnwyr cyffredin ac yn gam diogel. Mae rhywun saith gwaith yn llai tebygol o farw os caiff ei daro ar gyflymder o 20mya na 30mya – neu ddeg gwaith os yw'r unigolyn dros 60 oed.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud eisoes y byddai gostwng y terfyn yn arwain at fanteision iechyd sylweddol i’r cyhoedd.
“Mae dinasoedd rhyngwladol fel Perth, Dulyn, Milano, Wellington, a Washington, yn arwain y ffordd, a nawr mae'n bryd i ni ddal i fyny yng Nghymru.
“Rwy'n annog cymaint ohonoch â phosib i ymateb i'r ymgynghoriad ac anfon neges glir i Lywodraeth Cymru bod angen i'n priffyrdd fod yn llefydd mwy diogel i bob defnyddiwr”.
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS
Nodyn: Mae ymgynghoriad y Llywodraeth ar gael yma: Cynnig i ostwng y terfyn cyflymder ar strydoedd preswyl i 20mya