Janet Finch-Saunders MS, Shadow Minister for Climate Change, and Virginia Crosbie MP, have praised Morlais for their pioneering project which aims to benefit local communities, the economy, and help tackle climate change by generating electricity from turbines to be located in a 35 km2 area of seabed off the coast of Holy Island, Anglesey.
During the site meeting with Andy Billcliff, Managing Director; John Idris Jones, Director; Huw Jones, Chairman Jones Bros; and Bryn, Cadarn, the elected members were shown the new building being constructed to accommodate tidal power developers, and the work underway to bury several kilometres of cables underground.
Commenting after the visit, the Shadow Minister for Climate Change said:
“If Wales is to achieve net zero 2050, we need to be embracing all types of renewable energy technologies.
“Morlais, Jones Bros, and Cadarn should be proud that their efforts will result in the creation of opportunities for developers of tidal stream energy devices to deploy their technology off the North Wales coast.
“Almost every conversation I have about unleashing Wales’s economic and green energy potential results in concerns being raised about grid capacity and connectivity. I am pleased to be working with Virginia Crosbie MP to ensure that the National Grid is not a barrier to progress in North Wales.”
The Member of Parliament for Ynys Môn, added:
"It is always a pleasure to visit Morlais and see how it is developing Anglesey as the Energy Isle. It’s exciting tidal energy project is a vital part of the UK’s net zero ambitions and it’s clear renewables will play a huge part alongside nuclear in achieving the 2050 target.
But what projects like this also mean are high-quality jobs for islanders in future industries for many years to come. This is my priority and I saw concrete evidence this is beginning to happen on the visit.
Thank you to Morlais for inviting us. I look forward to returning soon to see the latest developments."
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS and Virginia Crosbie MP during their visit to Morlais
Mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid, a Virginia Crosbie AS, wedi canmol Morlais am eu prosiect arloesol sy'n ceisio bod o fudd i gymunedau lleol, yr economi ac sy’n helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd drwy gynhyrchu trydan o dyrbinau i'w lleoli mewn ardal 35 km2 o wely'r môr oddi ar arfordir Ynys Gybi, Ynys Môn.
Yn ystod cyfarfod ar y safle gydag Andy Billcliff, Rheolwr Gyfarwyddwr; John Idris Jones, Cyfarwyddwr; Huw Jones, Cadeirydd Jones Bros; a Bryn, Cadarn, cafodd yr aelodau etholedig weld yr adeilad newydd sy’n cael ei adeiladu i letya datblygwyr ynni'r llanw, a'r gwaith sydd ar y gweill i gladdu sawl cilometr o geblau o dan y ddaear.
Wrth sôn am yr ymweliad, dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid:
"Os yw Cymru am gyflawni sero net erbyn 2050, mae angen i ni groesawu pob math o dechnolegau ynni adnewyddadwy.
"Dylai Morlais, Jones Bros, a Cadarn fod yn falch iawn y bydd eu hymdrechion yn arwain at greu cyfleoedd i ddatblygwyr dyfeisiau ynni llif llanw ddefnyddio eu technoleg oddi ar arfordir Gogledd Cymru.
“Mae bron pob sgwrs rwy’n ei chael am wireddu potensial posibl economaidd a gwyrdd Cymru yn arwain at godi pryderon am gapasiti a chysylltedd y grid. Rwy'n falch o gael gweithio gyda Virginia Crosbie AS i sicrhau nad yw'r Grid Cenedlaethol yn rhwystr i gynnydd yn y Gogledd. "
Ychwanegodd Aelod Seneddol Ynys Môn:
"Mae hi wastad yn bleser ymweld â Morlais a gweld sut mae'n datblygu Ynys Môn fel yr Ynys Ynni. Mae ei brosiect ynni llanw cyffrous yn rhan hanfodol o uchelgeisiau sero net y DU ac mae'n amlwg y bydd ynni adnewyddadwy yn chwarae rhan enfawr law yn llaw â niwclear i gyrraedd targed 2050.
Ond beth mae prosiectau fel hyn hefyd yn ei olygu yw swyddi o safon uchel i ynyswyr yn niwydiannau'r dyfodol am flynyddoedd lawer i ddod. Dyma fy mlaenoriaeth a gwelais dystiolaeth bendant fod hyn yn dechrau digwydd yn ystod yr ymweliad.
Diolch i Morlais am ein gwahodd. Rwy'n edrych ymlaen at ddychwelyd yn fuan i weld y datblygiadau diweddaraf."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS a Virginia Crosbie AS yn ystod eu hymweliad â Morlais