Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has spoken of her delight having visited the annual St David’s Hospice Summer Fair.
St David’s Hospice’s team of experts provide the highest quality specialist palliative care for those with life limiting illnesses.
Their care is tailored to the needs of each patient, and they provide their services to patients, families and carers across Conwy, Gwynedd and Anglesey.
The Summer Fair is a fantastic fundraising occasion, with over 40 stalls, a BBQ, refreshments, and plenty of cakes, crafts and games!
Speaking of her visit, Janet said,
“A big thank you to the team at St David’s Hospice for running such a wonderful event every year, and to everyone who attends to support this marvellous cause.
“It was a brilliant day, with a lovely atmosphere, plenty of entertainment and dancing, and I even met a Dalek!
“I thoroughly enjoyed my day, and it was lovely to help fundraise for such a good cause, whilst also meeting plenty of constituents who also care about this hospice we are so lucky to have in our community.
“We are privileged to have such hard-working, dedicated carers at the Llandudno Hospice who ensure their patients receive the absolute best care.”
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi sôn am yr hwyl a gafodd yn ymweld â Ffair Haf Hosbis Dewi Sant.
Mae tîm arbenigwyr Hosbis Dewi Sant yn darparu gofal lliniarol arbenigol o'r ansawdd uchaf i'r rhai sydd â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd.
Mae eu gofal wedi'i deilwra i anghenion pob claf, ac maen nhw’n darparu eu gwasanaethau i gleifion, teuluoedd a gofalwyr ledled Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae'r Ffair Haf yn achlysur codi arian gwych, gyda dros 40 o stondinau, barbeciw, lluniaeth, a llond gwlad o gacennau, crefftau a gemau!
Wrth siarad am ei hymweliad, dywedodd Janet,
"Diolch yn fawr iawn i'r tîm yn Hosbis Dewi Sant am gynnal digwyddiad mor wych bob blwyddyn, ac i bawb sy'n mynychu i gefnogi'r achos gwych hwn.
"Roedd yn ddiwrnod i’r brenin, gydag awyrgylch hyfryd, digon o adloniant a dawnsio, ac fe wnes i hyd yn oed gwrdd â Dalek!
"Fe wnes i fwynhau fy niwrnod yn fawr, ac roedd yn hyfryd helpu i godi arian ar gyfer achos mor deilwng, tra hefyd yn cwrdd ag etholwyr sy’n poeni am yr hosbis hon rydyn ni mor ffodus i'w chael yn ein cymuned.
"Mae'n fraint i ni gael gofalwyr mor weithgar ac ymroddedig yn Hosbis Llandudno sy'n sicrhau bod eu cleifion yn derbyn y gofal gorau posib."