Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is delighted to celebrate the Dance with Cinti Academy of Performing Arts.
Established in 2015, the school aims to create a family environment where students feel safe and supported. Cinti offers a wide ranging curriculum covering ballet, street dance, lyrical, tap, modern, acrobatic dance and various other styles of dance.
Students are regularly invited to take part in competitions, shows and perform in many local events across North Wales.
Commenting on the studio, Janet said:
“I am thrilled to see how Cinti has flourished and developed over the years. Her academy has become a staple in North Wales, earning a reputation as an exciting opportunity for people of all ages.
“Organisations like these play a vital role in our community, offering both children and adults the chance to engage in professional, high-calibre performances. They provide a platform for self-expression, fostering new friendships, and creating a strong sense of community.
“I thank Cinti and her team for all their years of hard work and dedication. I look forward to many more years of experiences at the Academy and wish everyone an excellent rest of the summer.”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wrth ei bodd yn dathlu'r Dance with Cinti Academy of Performing Arts.
Ers ei sefydlu yn 2015, nod yr ysgol yw creu amgylchedd teuluol lle mae myfyrwyr yn teimlo'n ddiogel ac yn cael cefnogaeth. Mae Cinti yn cynnig cwricwlwm eang sy'n cwmpasu bale, dawns stryd, dawnsio telynegol, tap, dawns fodern, acrobatig ac amrywiol arddulliau dawns eraill.
Gwahoddir myfyrwyr yn rheolaidd i gymryd rhan mewn cystadlaethau a sioeau ac i berfformio mewn llawer o ddigwyddiadau lleol ledled y Gogledd.
Wrth sôn am y stiwdio, dywedodd Janet:
"Rydw i wrth fy modd yn gweld sut mae Cinti wedi ffynnu a datblygu dros y blynyddoedd. Mae ei hacademi wedi dod yn dipyn o gaffaeliad yn y Gogledd, gan ennill enw da am roi cyfle cyffrous i bobl o bob oed.
"Mae sefydliadau fel hyn yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymuned, gan gynnig cyfle i blant ac oedolion gymryd rhan mewn perfformiadau proffesiynol, o safon uchel. Maen nhw’n cynnig llwyfan ar gyfer hunanfynegiant, cyfleoedd i feithrin ffrindiau newydd, ac yn creu ymdeimlad cryf o gymuned.
"Diolch i Cinti a'i thîm am eu holl flynyddoedd o waith caled ac ymroddiad. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr Academi yn ffynnu am flynyddoedd i ddod a dymuniadau gorau am haf gwych i bawb."
DIWEDD