Yn dilyn y pryder cynyddol gan etholwyr am y posibilrwydd o gyllido peilot UBI (Cyflog Sylfaenol Cyffredinol) yng Nghymru, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i ailddyrannu cyllid yr arbrawf gan ganolbwyntio yn hytrach ar gefnogi cynlluniau datganoledig a fydd yn “creu mwy o swyddi a sicrhau tir mwy gwastad i Gymru gyfan.”
Daeth ei hymyrraeth yn sgil datganiad gan y Prif Weinidog ar 19 Mai 2021, a gyfaddefodd wrth y Senedd:
“Nid oes gennym yr holl bwerau a fyddai’n angenrheidiol, heb sôn am yr holl gyllid a fyddai ei angen, i gynnwys incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer Cymru gyfan.”
Yn siarad am yr angen i ailystyried, dywedodd Janet:
“Fel llawer o etholwyr sydd wedi cysylltu â mi yn yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi fy synnu bod Llywodraeth Cymru, yn nyddiau cynnar y Chweched Senedd, eisoes wedi dechrau gwastraffu adnoddau ar feysydd polisi sydd heb eu datganoli. Yn y cyfnod hwn o adferiad, ni ellir cyfiawnhau gwario’r arian ar yr arbrawf hwn.
“Yn wir, mae ymchwil ddiweddar i UBI wedi cwestiynu pa mor effeithiol yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n bodoli. Er enghraifft, datgelodd peilot diweddar yn y Ffindir nad oedd yn arwain at fwy o bobl yn dod o hyd i waith, tra bod ymchwil gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol wedi canfod na fyddai’r fenter hon yn diwallu anghenion pobl ar incwm isel.
“Mae profion modd yn hollbwysig i ddilysrwydd ein gwladwriaeth les, yn wahanol i UBI, a fyddai’n gwobrwyo’r bobl fwyaf cyfoethog mewn cymdeithas yn hytrach na thargedu’r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar y problemau sy’n wynebu carfannau mawr o’r cyhoedd drwy greu mwy o swyddi a sicrhau tir mwy gwastad i Gymru gyfan.”
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS