Heddiw (28 Medi), mae Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog Llywodraeth Cymru i efelychu addewid gan Brif Weinidog y DU i gynyddu nifer y mannau gwyrdd gwarchodedig.
Heddiw, bydd Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, yn addo y bydd Llywodraeth y DU yn cynyddu cyfanswm y tir gwarchodedig yn Lloegr o 26% i 30% erbyn 2030. Bydd Mr Johnson yn gwneud yr ymrwymiad mewn digwyddiad rhithwir y Cenhedloedd Unedig. Bydd hefyd yn llofnodi Addewid Natur yr Arweinwyr, sy’n cynnwys ymrwymiadau i flaenoriaethu adferiad gwyrdd yn dilyn y pandemig Coronafeirws, i gyflawni targedau bioamrywiaeth uchelgeisiol ac i gynyddu’r cyllid ar gyfer natur.
Wrth sôn am yr angen i ddiogelu mannau gwyrdd Cymru, dywedodd Janet:
“Mae’r cyhoeddiad heddiw gan y Prif Weinidog yn arwydd arwyddocaol bod awdurdodau Prydain, ar bob lefel, yn gallu ac yn gorfod gwneud mwy i ddiogelu ein mannau gwyrdd gwerthfawr. Bydd hyn yn rhan hanfodol o ymdrechion i wynebu’r argyfwng hinsawdd presennol.
“Bydd cynyddu maint seilwaith gwyrdd yng Nghymru yn dod â manteision digyffelyb a fydd yn arbed arian i’r trethdalwr yn y pen draw, gan gynnwys amsugno dŵr glaw fel ffordd o leihau’r perygl o lifogydd, hidlo llygredd gwenwynig o’r awyr a hyrwyddo llesiant meddyliol ymhlith trigolion trefol.
“Yn wir, credir bod mannau gwyrdd yng Nghymru yn cynnig gwerth dros £1.6 biliwn o fuddion llesiant lles i bobl bob blwyddyn. O ystyried hyn, gofynnaf i Lywodraeth Cymru rymuso awdurdodau lleol i sicrhau bod y gwaith o adfer a diogelu mannau gwyrdd yn cael eu blaenoriaethu fel rhan o unrhyw ailddatblygu trefol yn y dyfodol.
“Gyda’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn cael ei ystyried, rhaid i Lywodraeth Cymru yn awr wneud ymrwymiad penodol i gynyddu faint o fannau gwyrdd gwarchodedig sydd yng Nghymru. Dyma gyfle perffaith i ehangu’r 4% o dir Cymru sy’n cael ei gategoreiddio fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a’r 19.9% o dir sy’n rhan o’n tri Pharc Cenedlaethol.”
DIWEDD