Bedwar mis ers i Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i alw am weithredu brys er mwyn parhau i weithredu apeliadau byw a gwaith achos, mae Gweinidog yr Wrthblaid yn galw ar y Gweinidog i ymddiheuro am y siop siafins parhaus yn Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW).
Mae PEDW bellach yn gyfrifol am ymdrin â'r holl waith achos a arferai gael ei drin gan PINS Cymru, sy'n golygu bod pob apêl neu waith achos am ganiatâd a benderfynwyd yn flaenorol gan PINS Cymru bellach yn cael ei gyfeirio at y corff newydd. Dechreuodd y gwasanaeth newydd ar 1 Hydref 2021.
Yr wythnos hon mae busnesau wedi dweud bod PEDW yn rhwystro buddsoddiadau yng Nghymru.
Wrth sôn am yr argyfwng cynllunio yng Nghymru, dywedodd Janet:
“Mae'r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r newid i PEDW yn enghraifft o reoli gwael sy'n costio'n ddrud i dwf economaidd a buddsoddiad busnes y genedl.
“Fis Hydref diwethaf, tynnais sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn goruchwylio argyfwng difrifol gan nad oedd gan swyddogion fynediad llawn at y system gwaith achos newydd na dogfennau, ac felly nid oedden nhw’n gallu darparu gwybodaeth hanfodol am apeliadau byw.
“Yn wir, fe wnaeth llythyr agored gan Brif Gynllunydd y Gyfarwyddiaeth Gynllunio rybuddio am y sefyllfa bosibl ar 15 Gorffennaf 2020. Felly, er gwaetha'r ffaith eu bod wedi cael bron i flwyddyn i gynllunio'n iawn, mae'n warthus bod problemau difrifol yn dal i blagio PEDW bum mis yn ddiweddarach.
“Gydag argyfwng tai ledled Cymru, mae'r sefyllfa chwerthinllyd hon yn gwbl annerbyniol ac amhroffesiynol. Rhaid i'r Gweinidog ymddiheuro a threfnu bod adnoddau ychwanegol yn cael eu rhoi i rymuso PEDW i fynd i'r afael â'r ôl-groniad a sicrhau bod y system gynllunio yn gweithio'n iawn".
DIWEDD