Heddiw (3 Awst), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi erfyn ar y rhai sy’n rhan o sector cynnyrch llaeth Cymru i gyfrannu at ymgynghoriad sydd wedi’i lunio i fynd i’r afael â phroblemau gyda’r gadwyn gyflenwi.
Am flynyddoedd lawer, mae ffermwyr llaeth wedi gofyn am i’r broses brisio fod yn fwy tryloyw. Mae swyddogion yn y sector am greu proses gyflafareddu, er mwyn sicrhau bod sancsiynau am ymddygiad gwael.
Gan roi ei sylwadau ar yr ymgynghoriad, dywedodd Janet:
“Rwy’n croesawu’n gynnes yr ymgynghoriad hwn ledled y DU ac yn annog y rhai sy’n rhan o’r sector llaeth yng Nghymru i gymryd rhan yn y broses hon gan ei bod yn cynnig y cyfle i leisio barn ar a ddylid cyflwyno rheoliadau i sicrhau bod ein ffermwyr llaeth yn cael eu trin yn decach.
“Yn fy nghyfarfod gyda ffermwyr o’r De-orllewin yr wythnos diwethaf, roedd hi’n amlwg bod y sector wedi ei fethu gan un Llywodraeth Lafur ar ôl y llall yng Nghymru, sydd wedi helpu i orfodi biwrocratiaeth ormodol ac annheg ar ein ffermwyr llaeth.
“Mae’r pandemig COVID-19 unwaith eto wedi tynnu sylw at sefyllfa fregus llawer o’n ffermwyr llaeth. Roedd hi’n dorcalonnus clywed am lawer o ffermwyr llaeth yn gorfod taflu llaeth a cholli eu bara menyn.
“Trwy gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn, gall Llywodraeth Geidwadol y DU gynnig rheoliadau a fydd yn helpu i gefnogi ffermwyr llaeth gwych Cymru a diogelu ein cymunedau gwledig. Mae rôl y sector hwn fel darparwr swyddi hollbwysig yn golygu bod eu brwydr yn rhy bwysig i’w hanwybyddu.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Am ragor o wybodaeth am yr ymgynghoriad DU gyfan hon, ewch i: https://consult.defra.gov.uk/agri-food-chain-directorate/contractual-relationships-in-the-uk-dairy-industry/