Yn ystod dadl yn y Senedd ar sgiliau’r gweithlu, galwodd Janet Finch-Saunders, AC Aberconwy, a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach, ar Lywodraeth Cymru i ffurfio Athrofa Dechnoleg yn y Gogledd er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau.
Byddai Athrofa Dechnoleg yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng busnesau ac addysgu o’r radd flaenaf yn y Gogledd.
Byddai’r athrofa’n gydweithrediad rhwng darparwyr addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr, a byddai’n arbenigo ar ddarparu addysg dechnegol uwch gyda phwyslais ar wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, er mwyn rhoi hwb i sgiliau ledled y rhanbarth.
Meddai Janet wedi’r ddadl:
“Sgiliau yw man gwan ein Draig Goch.
“Dywedodd 67% o’n huwch arweinwyr busnes yng Nghymru fod eu cwmnïau’n profi prinder sgiliau ar hyn o bryd, a dywed 54% o gyflogwyr nad ydyn nhw’n gallu recriwtio digon o staff â’r sgiliau sy’n ofynnol.
“Mae pobl fusnes o Fetws-y-coed i Gonwy wedi cwyno droeon wrtha’i am eu hanallu i ddod o hyd i staff â’r sgiliau gofynnol.
“Rwy’n gwybod am swyddi gwag heb eu llenwi yn y sectorau twristiaeth a gofal cymdeithasol Aberconwy, ac mae’n frawychus bod prinder sgiliau’n costio tua £155.2 miliwn i fusnesau Cymru.
“Diolch i’r drefn fod y gyfradd diweithdra yn y Gogledd wedi gostwng o’r raddfa uchaf o 6.5% yn 2012 i 3.9% yn 2019. Fodd bynnag, gellid lleihau hyn pe bai pobl yn cael cymorth i gaffael mwy o’r sgiliau sydd eu hangen ar y farchnad.
“Mae Coleg Llandrillo eisoes wrth law i helpu. Er enghraifft, mae eu Hathrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn helpu myfyrwyr i archwilio pob agwedd ar ofal ystafell wely, a diolch yn rhannol i Bargen Twf y Gogledd a llywodraeth y DU, dylai Llandrillo fod yn darparu gwasanaeth datblygu sgiliau penodol er mwyn cyflymu twf ein sector twristiaeth a lletygarwch.
“Er hynny, mae modd cyflawni llawer mwy, yn enwedig i’r sectorau peirianneg, digidol ac adeiladu.
“Mae angen canolfan ddysgu unswydd arnom i addysgu’r sgiliau technegol penodol sydd eu hangen yn ein hardal – felly dyna pam rwy’n galw am greu Athrofa Dechnoleg yn y Gogledd.
“Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo i sefydlu 12 o Athrofeydd Technoleg ledled Lloegr, felly mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru ganiatáu inni gael un yma yn y Gogledd”.
Nodiadau:
Conservative Party Debate: Workforce Skills Post Brexit
Cyfraddau diweithdra ILO yn ôl ardaloedd lleol yng Nghymru a blwyddyn