Heddiw (16 Medi), galwodd Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - ar Lywodraeth Cymru i greu Cynllun Grant Cartrefi Gwyrdd Cymru i roi gwell cymorth i aelwydydd incwm isel wrth wella effeithlonrwydd ynni eu heiddo.
Daeth ei galwadau yn ystod cwestiynau i Julie James AS, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Cymru. Ers 2011-12, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu cymorth ariannol i wneud gwelliannau i aelwydydd drwy Nyth. Fodd bynnag, mae nifer y preswylwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun wedi dirywio ers 2015.
Gan roi sylwadau ar ei galwadau am Gynllun Grant Cartrefi Gwyrdd, dywedodd Janet:
“Er bod gan gynllun Nyth ei le yn sicr ar ddechrau’r degawd diwethaf, mae ystadegau diweddar wedi dangos bod nifer y preswylwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun wedi dirywio o 6,000 o aelwydydd yn 2015-16 i 3,800 yn 2018-19.
“Mewn cyfnod lle mae Llywodraeth Cymru yn lleihau ei chymorth ar gyfer gwelliannau i’r cartref, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi lansio Cynllun Grant Cartrefi Gwyrdd arloesol ac mae disgwyl i dros 600,000 o berchnogion tai gael eu cefnogi yn Lloegr.
“Mae angen arweinyddiaeth braff ac arloesol i gynnal twf economaidd glân yn y dyfodol. Byddai cynnal cynllun fel hyn yng Nghymru yn cael effaith gadarnhaol bellgyrhaeddol ar gostau byw ar gyfer aelwydydd incwm isel, ynghyd ag ar gyfer defnyddio stoc gwlân y genedl.
“Gyda hyn mewn cof, rwyf wedi galw ar Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Cymru i weithio gyda’i chydweithwyr i ymchwilio i’r posibilrwydd o greu Cynllun Grant Cartrefi Gwyrdd Cymru a fyddai’n cynyddu ymateb ein cenedl i’r argyfwng hinsawdd sydd ohoni.”
DIWEDD
Ffoto: Greg Rosenke/UnSplash