Heddiw (09 Medi) mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi annog Llywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad i’r arfer o gwympo coed lle mae llifogydd yn broblem amlwg.
Mae’r arfer o gwympo coed yn dal i ddigwydd yn Nyffryn Conwy, gan arwain at bryder lleol am ddiflaniad yr hyn a gydnabyddir sy’n amddiffynfa rhag llifogydd. Mewn ymateb diweddar i Gwestiwn Ysgrifenedig gan Aelodau ar y pryderon hyn, dywedodd Lesley Griffiths AS:
"Er yn dda am ryng-gipio dŵr, y cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru yw nad oes digon o goetir yn nalgylch Dyffryn Conwy i gael effaith sylweddol ar lifogydd o Afon Conwy. [….] Mae tystiolaeth gadarn i ddangos bod coetiroedd a reolir yn dda o bob math, fel y rhai ar Stad Coetir Llywodraeth Cymru, yn rhan o’r datrysiad a ddim yn rhan o’r broblem.”
Yn gynt yn y flwyddyn, cafodd yr arfer o gwympo coed sylw eang ar ôl achosi problemau yn Pentre yn y Rhondda, a ddioddefodd ddau lif o fewn pum niwrnod ar ôl i gwlfer ddymchwel yn ystod Storm Dennis.
Yn rhoi sylwadau ar ei galwadau am adolygiad, dywedodd Janet:
“Rwy’n galw am adolygiad brys o arferion cwympo coed yng Nghymru, yn enwedig mewn lleoliadau lle mae llifogydd yn digwydd yn aml ac yn fygythiad i drigolion a’u bywoliaethau.
“Daeth yn amlwg yn fy sgyrsiau gyda Coed Cadw, o’u cyfuno ag amddiffynfeydd o waith dyn, mae coed yn ddatrysiad cynaliadwy a hawdd ei gynnal i leihau’r risg o lifogydd gan eu bod yn helpu dŵr i ymdreiddio ac yn arafu dŵr ffo i dir fferm.
“O ystyried bod Gweinidog yr Amgylchedd Cymru wedi derbyn bod coed conwydd Dyffryn Conwy yn dda iawn am ryng-gipio dŵr glaw ac arafu llif dŵr, sut gall Lesley Griffiths AS ganiatáu i gymaint o goed gael eu cwympo? Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r cyngor gwyddonol sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.
"Bydd cwympo’r coed hyn ym Mhrydain sy’n tyfu’n araf hefyd yn cael effaith negyddol iawn ar allu ein cenedl i ddal a storio carbon. Saif coed yn falch fel gwarcheidwaid yr amgylchedd naturiol a nhw yw ein prif amddiffynwyr yn ein brwydr yn erbyn allyriadau cymdeithas fodern.
“Gyda’r rhagamcanion gwyddonol yn awgrymu y gall Cymru ddisgwyl mwy o dywydd garw yn y dyfodol, a gyda’r argyfwng hinsawdd presennol yn achosi llifogydd yn amlach, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu effaith cwympo coed ar ein gallu i amddiffyn cartrefi a busnesau.”
DIWEDD