Gyda gwasanaethau iechyd rheng flaen dan bwysau mawr yn sgil COVID-19, mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i helpu i gynyddu nifer y diffibrilwyr mewn cymunedau ledled Cymru. Gan roi sylwadau ar ei hymgyrch, dywedodd Janet:
“Mae pob eiliad yn cyfrif pan fo rhywun yn cael ataliad y galon.
“Rydym yn ffodus fod Calonnau Cymru wedi gosod mwy na 2,000 o ddiffibrilwyr ledled Cymru, a bod Calon y Dyffryn yn gweithio tuag at gael achubwyr bywydau wedi’u hyfforddi mewn CPR a diffibrilwyr ym mhob cymuned yn y Gogledd.
“Rwy’n cytuno gyda’r uchelgais, ac yn meddwl bod mwy o angen nawr nag erioed i Lywodraeth Cymru gefnogi’r gwaith o gyflwyno diffibrilwyr yn raddol.
“Gyda gwasanaethau rheng flaen yn canolbwyntio ar COVID-19 a chymaint ohonom yn gweithio gartref ac i ffwrdd o’r ardaloedd trefol mawr, mae angen dal ati i wella mynediad at ddiffibrilwyr yn ystod yr argyfwng iechyd cenedlaethol hwn.
“Fel y dywedodd un elusen wrtha i, mae’r feirws yn ymosod ar holl brif organau’r corff, gan gynnwys y galon, felly mae angen i ni gadw’r diffibrilwyr ar yr agenda ac i Lywodraeth Cymru beidio â thynnu ei throed oddi ar y sbardun.”
DIWEDD