Heddiw (11 Tachwedd), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried profi poblogaeth mincod gwyllt y genedl, yn sgil y datgeliadau diweddar o Ogledd Ewrop.
Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig, gofynnodd Mrs Finch-Saunders:
A fydd y Prif Weinidog yn ystyried profi poblogaethau mincod gwyllt yng Nghymru er mwyn sefydlu a yw Covid-19 mewn mincod yn bresennol yma?
Awgryma adroddiadau o Ddenmarc bod mwtaniad o Goronafeirws wedi lledaenu ymysg mincod sy’n cael eu ffermio. Yn ôl yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, mae’r minc Americanaidd wedi ennill ei blwyf yn y DU, ar ôl dianc neu ei ryddhau’n fwriadol o ffermydd ffwr yn y 1960au.
Wrth roi sylwadau, dywedodd Janet:
“Yn dilyn adroddiadau diweddar o Ddenmarc a oedd yn peri pryder, ynghyd ag o sawl gwlad Ewropeaidd arall, rwyf wedi cyflwyno cwestiwn ysgrifenedig brys i’r Prif Weinidog yn gofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi astudiaeth profion gwyddonol i weld a yw’r Covid-19 mewn mincod yn bresennol yng Nghymru.
“Rwy’n ddiolchgar iawn am y gweithredu diweddar gan Lywodraeth y DU i geisio atal unrhyw achosion o Ddenmarc rhag cyrraedd y DU, gyda chyflwyniad cyfyngiadau teithio ar unwaith a’r gofyn i ymwelwyr sy’n dychwelyd o’r wlad honno ynysu. Rwy’n ymwybodol o rywfaint o bryder ymysg preswylwyr Cymru am y mwtaniad hwn, yn dilyn yr adroddiadau newyddion dros y penwythnos.
“Mae mincod Americanaidd gwyllt wedi hen ennill eu plwyf yn y DU ac wedi newid y fioamrywiaeth sawl dyfrffordd. Credir fod mincod, fel eu perthnasau’r ffuredau, yn agored i feirysau resbiradol. Felly, mae angen darlun gwyddonol llawn arnom er mwyn gallu rhoi sicrwydd i breswylwyr gwledig a diogelu cyfanrwydd ecosystem Cymru.”
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS