Mae Janet Finch-Saunders AS wedi cefnogi galwadau gan y Comisiynydd Pobl Hŷn i Lywodraeth Lafur Cymru gyhoeddi cynllun gweithredu i ddiogelu a chefnogi pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Daeth eu galwadau wrth i adroddiad newydd gael ei gyhoeddi - Lleisiau Cartrefi Gofal: Cipolwg ar fywyd yng nghartrefi gofal Cymru yn ystod COVID-19 - sy’n tynnu sylw at yr heriau yr oedd trigolion a staff cartrefi gofal yn eu hwynebu yn ystod y pandemig. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar brofiadau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, eu teuluoedd a’u ffrindiau, a rheolwyr a staff cartrefi gofal.
Meddai Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Bobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Janet Finch-Saunders:
“Mae’r ffordd mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi rheoli’r pandemig mewn cartrefi gofal yn ddim llai na sgandal. Mae’n ymddangos bod y rhai yn y sector cartrefi gofal – boed yn staff neu drigolion – yn gorfod wynebu heriau unigryw,
anferth ac anghymesur bob wythnos yn ystod y pandemig, yn cynnwys diffyg profion a chartrefi gofal yn cael eu siarsio i dderbyn cleifion sy’n cael eu rhyddhau o ysbytai.
“Mae’n rhaid i’r weinyddiaeth Lafur gyhoeddi ar frys pa gamau sydd eisoes ar waith neu sydd ar y gweill i roi sicrwydd i bobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal, a’u teuluoedd.”
DIWEDD